Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer a eisteddodd o bell ar 12 - 14 Mai 2021 wedi canfod honiadau bod Ms Dunt, gweithiwr gofal cartref, wedi mynychu eiddo unigolyn â chymorth pan nad oedd bellach yn gyflogedig, wedi gwneud cyswllt corfforol ac wedi ceisio darparu gofal heb ddefnyddio offer amddiffynnol personol priodol.
Canfu'r Panel fod nam ar addasrwydd presennol Ms Dunt i ymarfer a gosod Gorchymyn Dileu sy'n golygu na fydd hi'n gallu gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol rheoledig yng Nghymru.
Mae gan Ms Dunt yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal cyn pen 28 diwrnod.
Mae copi o resymau llawn y panel ar gael ar gais.