00:00:00,720 --> 00:00:02,200
Helo, Michael West ydw i.
2
00:00:02,400 --> 00:00:05,520
Dw i'n Uwch Gymrawd Gwadd yn
The King's Fund yn Llundain...
3
00:00:05,720 --> 00:00:09,680
..ac yn Athro Seicoleg Sefydliadol
ym Mhrifysgol Caerhirfryn.
4
00:00:09,960 --> 00:00:13,200
Dw i eisiau disgrifio
yr hyn sy'n cael ei olygu wrth...
5
00:00:13,400 --> 00:00:17,640
.arweinyddiaeth dosturiol mewn
gofal cymdeithasol ledled Cymru.
6
00:00:18,200 --> 00:00:21,800
Mae'n golygu pedwar ymddygiad - talu
sylw i rai ry'n ni'n eu harwain...
7
00:00:22,000 --> 00:00:24,720
..deall yr heriau
maen nhw'n eu hwynebu...
8
00:00:24,920 --> 00:00:27,880
..dangos empathi tuag atyn nhw
a'u helpu nhw.
9
00:00:28,080 --> 00:00:31,960
Mae angen i ni dalu sylw
i'r rhai rydyn ni'n eu harwain.
10
00:00:32,160 --> 00:00:34,840
Bod yn bresennol gyda nhw.
11
00:00:35,040 --> 00:00:37,160
Gwrando arnyn nhw gyda diddordeb.
12
00:00:37,360 --> 00:00:40,880
Ac o ystyried y pwysau
sydd ar staff gofal cymdeithasol...
13
00:00:41,080 --> 00:00:44,720
..ceisio deall yr heriau
maen nhw'n eu hwynebu.
14
00:00:44,920 --> 00:00:50,320
Nid trwy orfodi ein dealltwriaeth
o safle hierarchaidd pell.
15
00:00:50,520 --> 00:00:53,680
Ond trwy ddeialog, er mwyn cyrraedd
dealltwriaeth ar y cyd...
16
00:00:53,880 --> 00:00:56,560
..o'r heriau y maen nhw'n eu hwynebu
wrth eu gwaith.
17
00:00:56,760 --> 00:01:02,040
Yn drydydd, mae'n fater o ymateb
gydag empathi, teimlad a gofal.
18
00:01:02,240 --> 00:01:05,920
Teimlo'r pwysau sydd arnyn nhw,
teimlo'r pryderon.
19
00:01:06,120 --> 00:01:10,960
Teimlo weithiau'r synnwyr o
annigonolrwydd sydd falle gan staff.
20
00:01:11,160 --> 00:01:14,960
Mae hyn yn darparu'r cymhelliant
ar gyfer pedwaredd elfen tosturi...
21
00:01:15,160 --> 00:01:18,320
..sef helpu, neu wasanaethu,
y rhai rydyn ni'n eu harwain.
22
00:01:18,520 --> 00:01:21,960
Mae modd gwneud hynny drwy helpu
i gael gwared ar rwystrau...
23
00:01:22,160 --> 00:01:25,680
..sy'n eu hatal rhag gwneud eu
gwaith mewn ffordd effeithiol...
24
00:01:25,880 --> 00:01:29,840
..a'u helpu i ddod o hyd i'r
adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw.
25
00:01:30,120 --> 00:01:32,960
Y nifer cywir o staff
gyda'r sgiliau cywir...
26
00:01:33,160 --> 00:01:36,200
..y cyfarpar a'r technolegau cywir,
cyfrifiadura...
27
00:01:36,400 --> 00:01:38,600
..a'r hyfforddiant
a datblygiad cywir...
28
00:01:38,800 --> 00:01:42,440
..i roi'r sgiliau cywir iddyn nhw
allu gwneud eu swyddi'n effeithiol.
29
00:01:42,640 --> 00:01:45,120
Mae'n wybyddus i ni
ers 60 mlynedd...
30
00:01:45,320 --> 00:01:48,640
..bod yr ymddygiadau hyn,
sef arweinyddiaeth dosturiol...
31
00:01:48,840 --> 00:01:51,800
..yn allweddol
er mwyn arwain yn effeithiol...
32
00:01:52,000 --> 00:01:55,080
..ac i sicrhau bod timau
a sefydliadau yn effeithiol.
33
00:01:57,520 --> 00:02:00,920
Nid rhyw ymagwedd clustog feddal
a chanhwyllau persawrus...
34
00:02:01,120 --> 00:02:03,000
..tuag at arweinyddiaeth mo hon.
35
00:02:03,200 --> 00:02:05,840
I'r gwrthwyneb,
mae arweinyddiaeth dosturiol...
36
00:02:06,040 --> 00:02:09,200
..yn gofyn am gryn dipyn mwy
o ddewrder a dilysrwydd...
37
00:02:09,400 --> 00:02:12,400
..na'r dewis hawdd o arwain
drwy orchymyn a rheoli.
38
00:02:12,600 --> 00:02:15,320
Oherwydd yn y bôn,
mae ein tosturi fel arweinwyr...
39
00:02:15,520 --> 00:02:18,400
..yn mynd tuag at bobl Cymru
rydyn ni'n eu gwasanaethu.
40
00:02:18,600 --> 00:02:20,680
Y cymunedau
rydyn ni'n eu gwasanaethu.
41
00:02:20,880 --> 00:02:23,760
Mae hynny'n golygu ffocws cryf
ar berfformiad...
42
00:02:23,960 --> 00:02:27,360
..a rheoli perfformiad
mewn ffordd dosturiol.
43
00:02:27,960 --> 00:02:31,480
Hefyd, nid dull hawdd seiliedig
ar gonsensws o symud ymlaen mo hwn.
44
00:02:31,680 --> 00:02:34,480
Mae'n sicrhau ein bod ni'n gwneud
yr hyn sydd orau...
45
00:02:34,680 --> 00:02:36,960
..yn ein lleoliadau
gofal cymdeithasol...
46
00:02:37,160 --> 00:02:40,440
..i'n galluogi ni i ddarparu
gofal a chymorth o ansawdd uchel...
47
00:02:40,640 --> 00:02:43,320
..i'r bobl a'r cymunedau
rydyn ni'n eu gwasanaethu.
48
00:02:43,520 --> 00:02:47,440
Felly mae'n fater o sicrhau
bod arweinydd yn effeithiol...
49
00:02:47,640 --> 00:02:51,640
..drwy greu synnwyr o weledigaeth
neu gyfeiriad sy'n ysbrydoli.
50
00:02:51,840 --> 00:02:55,840
Mae hwn yn olau sy'n tywys
ein penderfyniadau bob dydd...
51
00:02:56,040 --> 00:02:58,440
..bob awr a munud yn ystod y dydd.
52
00:02:58,640 --> 00:03:01,600
Mae'n sicrhau bod ymdrechion pobl
yn gyson â'i gilydd...
53
00:03:01,800 --> 00:03:04,440
..yn ein timau a'n sefydliadau...
54
00:03:04,640 --> 00:03:07,160
..drwy sicrhau
bod nodau clir i'w cael...
55
00:03:07,360 --> 00:03:10,880
..a bod pobl yn cydgysylltu
eu gwaith yn effeithiol.
56
00:03:11,080 --> 00:03:13,800
A thrwy greu teimlad
o ymddiriedaeth ac ymrwymiad...
57
00:03:14,000 --> 00:03:16,160
..ledled ein timau a'n sefydliadau.
58
00:03:16,360 --> 00:03:19,920
Mae hefyd yn fater o sicrhau
bod arweinyddiaeth yn gynhwysol.
59
00:03:20,120 --> 00:03:23,560
Os nad yw arweinyddiaeth yn
gynhwysol, nid yw'n dosturiol.
60
00:03:23,760 --> 00:03:28,880
Felly sicrhau bod pawb yn teimlo
wedi eu cynnwys yn y dull arwain...
61
00:03:29,080 --> 00:03:33,080
..waeth beth fo'u cefndir
proffesiynol...
62
00:03:33,280 --> 00:03:36,800
..neu rywedd neu ethnigrwydd
neu genedligrwydd.
63
00:03:37,400 --> 00:03:40,520
Achos mae bod yn gynhwysol
a dangos tosturi...
64
00:03:40,720 --> 00:03:43,280
..yn ddwy ochr i'r un geiniog
mewn ffordd.
65
00:03:43,480 --> 00:03:47,320
Maen nhw'n ymwneud â phylu'r ffiniau
rhwng yr hunan ac eraill...
66
00:03:47,520 --> 00:03:51,720
..a chreu ymdeimlad o gysylltiad
a bod yn ddiogel a chael cefnogaeth.
67
00:03:52,240 --> 00:03:55,760
Mae arweinyddiaeth dosturiol
yn fater o gydweithio...
68
00:03:55,960 --> 00:03:58,280
..a rhannu pwer
a galluogi pawb i deimlo...
69
00:03:58,480 --> 00:04:01,400
..bod ganddyn nhw hawliau
a chyfrifoldebau arwain.
70
00:04:02,960 --> 00:04:06,200
Mae hynny'n golygu annog
arweinyddiaeth ar y cyd mewn timau.
71
00:04:06,400 --> 00:04:09,240
Efallai bod gennym ni
arweinydd tîm hierarchaidd...
72
00:04:09,440 --> 00:04:11,840
..ond rôl yr arweinydd
yw dod â chyfraniad...
73
00:04:12,040 --> 00:04:15,400
..a gwybodaeth pawb ynghyd i
ddarparu gofal o ansawdd uchel...
74
00:04:15,600 --> 00:04:18,480
..i'r bobl a'r cymunedau
rydyn ni'n eu gwasanaethu.
75
00:04:18,680 --> 00:04:20,480
Mae arweinyddiaeth dosturiol...
76
00:04:20,680 --> 00:04:23,880
..yn fater o weithio'n dosturiol
mewn ffordd gynorthwyol...
77
00:04:24,080 --> 00:04:27,480
..ar draws ffiniau gyda thimau
a sefydliadau a sectorau eraill...
78
00:04:27,680 --> 00:04:30,480
..ry'n ni'n gweithio gyda nhw,
gan roi blaenoriaeth...
79
00:04:30,680 --> 00:04:34,320
..i ddarparu gofal o ansawdd da i'r
cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu.
80
00:04:34,520 --> 00:04:38,120
A gofyn y cwestiwn hwn wrth ymdrin
â thimau a sefydliadau eraill...
81
00:04:38,320 --> 00:04:40,320
.."Sut gallwn ni eich helpu chi?"
82
00:04:40,520 --> 00:04:45,280
Mae arwain yn dosturiol yn greiddiol
i greu'r diwylliant sydd ei angen...
83
00:04:45,480 --> 00:04:49,560
..er mwyn trawsnewid iechyd
a gofal cymdeithasol yng Nghymru...
84
00:04:49,760 --> 00:04:51,520
..dros y blynyddoedd nesaf...
85
00:04:51,720 --> 00:04:56,160
..er budd pobl a chymunedau
ledled y wlad.