CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Ein cynllun ar gyfer y gweithlu iechyd meddwl yn iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru
Ymgynghoriad

Ein cynllun ar gyfer y gweithlu iechyd meddwl yn iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru

- | Gofal Cymdeithasol Cymru

Ymgynghoriad: eich cyfle chi i gyfrannu at y gwaith o lunio cynllun y gweithlu iechyd meddwl ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Dywedwch wrthym beth yw eich barn am ein cynllun ar gyfer y gweithlu iechyd meddwl proffesiynol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Rydym yn datblygu’r cynllun gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) i ymateb i’r camau gweithredu a nodwyd yn Law yn Llaw at Iechyd Meddwl. Er mwyn sicrhau ein bod yn datblygu dull cyflawn o gefnogi pobl, mae’r cynllun yn cynnwys pob rhan o’r gweithlu sy’n chwarae rhan mewn gwasanaethau iechyd meddwl.

Mae’r camau rydym yn eu hawgrymu yn yr ymgynghoriad yn deillio o’r gwaith ymgysylltu, ymchwil a dadansoddi rydym wedi’i wneud.

Sut mae cymryd rhan

Cynhelir yr ymgynghoriad rhwng 1 Chwefror 2022 a 28 Mawrth 2022.

Gallwch weld yr ymgynghoriad yma. Mae gwybodaeth hefyd am ein gwaith ymchwil ac ymgysylltu.

Gallwch gyflwyno eich atebion drwy’r e-ffurflen hon. Does dim rhaid i chi roi eich enw nac unrhyw wybodaeth a fyddai’n datgelu pwy ydych chi. Neu, gallwch anfon eich atebion dros e-bost at heiw.mentalhealth@wales.nhs.uk.

Rydym hefyd yn cynnal gweithdai ymgynghori. Os hoffech chi fod yn bresennol, ewch i'r dudalen gweithdai.

Rydym yn trefnu cyfarfodydd â chyrff proffesiynol ac rydym yn fodlon ymuno â chyfarfodydd eraill sydd wedi’u trefnu ymlaen llaw pan fo hynny’n bosibl yn ystod y cyfnod ymgynghori i drafod y camau gweithredu arfaethedig. Os oes gennych chi ddiddordeb, anfonwch e-bost at heiw.mentalhealth@wales.nhs.uk