CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Cynllun cydraddoldeb strategol drafft
Ymgynghoriad

Cynllun cydraddoldeb strategol drafft

- | Gofal Cymdeithasol Cymru

Ynglŷn â’r ymgynghoriad hwn

Rydym eisiau eich barn am ein cynllun cydraddoldeb strategol cyntaf a’n hamcanion cydraddoldeb.

Mae ein cynllun cydraddoldeb strategol pedair blynedd yn nodi sut y byddwn yn hyrwyddo cyfle cyfartal drwy ein gwaith i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth, eu teuluoedd, gofalwyr, y gweithlu sy'n darparu’r gofal a’r cymorth, ein staff ac aelodau’r bwrdd.

Mae ein cynllun yn seiliedig ar egwyddor hyrwyddo cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae'n nodi:

  • ein chwe amcan cydraddoldeb
  • sut byddwn yn canfod ac yn casglu gwybodaeth am gydraddoldeb
  • sut byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth am gydraddoldeb
  • sut byddwn yn cynnal asesiadau effaith
  • sut byddwn yn hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o’r dyletswyddau cydraddoldeb i'n staff.

I wneud yn siŵr bod ein hamcanion yn adlewyrchu cynifer o safbwyntiau amrywiol â phosibl, fe wnaethom eu datblygu gyda chyfraniad gan nifer o bobl sy'n rhannu un neu fwy o nodweddion gwarchodedig.

Sut ydw i’n cymryd rhan?

Os hoffech chi gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, lawrlwythwch y cynllun cydraddoldeb strategol drafft isod a chwblhau’r arolwg ar-lein byr. Gallwch hefyd lawrlwytho a chwblhau’r cwestiynau isod a’i ddychwelyd i ni trwy e-bost neu’r post.

Y dyddiad cau ar gyfer sylwadau yw 27 Ebrill 2018.