CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i'r rheolau ar gyfer graddau gwaith cymdeithasol
Ymgynghoriad

Ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i'r rheolau ar gyfer graddau gwaith cymdeithasol

- | Gofal Cymdeithasol Cymru

Ar beth rydyn ni'n ymgynghori?

Hoffwn eich barn a'ch syniadau am ein newidiadau arfaethedig i'r rheolau ar gyfer graddau gwaith cymdeithasol yng Nghymru.

Rydym am wneud newidiadau i:

  • Y Fframwaith ar gyfer y Radd Gwaith Cymdeithasol: Canllawiau Atodol i'r Rheolau (2021)
  • Y Fframwaith ar gyfer Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru 2021

Y newidiadau arfaethedig yw

  • Dileu'r gofyniad am isafswm o oriau gofal cymdeithasol
  • Dileu gofyniad cymhwyster rhifedd lefel 2 ar gyfer mynediad i waith cymdeithasol
  • Cael gwared ar y gofyniad am gyfweliadau 'wyneb yn wyneb' yn y broses dderbyn
  • Bod yn fwy clir ynglŷn â sut i reoli ceisiadau trosglwyddo myfyrwyr rhwng rhaglenni astudio rheoledig
  • Defnyddio rhagenwau niwtral o ran rhywedd mewn rheolau sicrhau ansawdd addysg yn y dyfodol, fframweithiau ac arweiniad.

Pam ydyn ni'n awgrymu'r newidiadau hyn?

  • Hyrwyddo mwy o gyfle i gael mynediad i raglenni gwaith cymdeithasol
  • Er mwyn cynyddu nifer yr ymgeiswyr cymwys i raglenni cymwys
  • Er mwyn darparu mwy o hyblygrwydd o ran sut mae cyfweliadau yn y broses dderbyn yn cael eu cynnal
  • Er mwyn sicrhau bod ceisiadau trosglwyddo myfyrwyr yn cael eu rheoli'n gyson rhwng rhaglenni astudio rheoledig
  • I wneud yn siŵr nad ydyn ni'n anfwriadol heb gynnwys unrhyw un sydd â'r rhagenwau rydym yn eu defnyddio.

Sut i ymateb

Os hoffech ddweud eich dweud am ein newidiadau arfaethedig i'r rheolau ar gyfer graddau gwaith cymdeithasol, gallwch wneud hynny drwy: