CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Canllawiau ymarfer drafft i weithwyr gofal cartref
Ymgynghoriad

Canllawiau ymarfer drafft i weithwyr gofal cartref

- | Gofal Cymdeithasol Cymru

Ynglŷn â'r ymgynghoriad hwn

Rydym eisiau eich barn chi am ganllawiau newydd rydym wedi eu datblygu ar gyfer gweithwyr gofal cartref. Bwriad y canllawiau drafft yw i gefnogi ac arwain gweithwyr gofal cartref yn eu gwaith.

Mae'r canllawiau, ynghyd â'r Côd Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol (Y Côd), yn disgrifio'r safonau a ddisgwylir gan weithwyr gofal cartref. Mae hefyd yn anelu at roi iddynt, wrth iddynt weithio i safonau'r Côd, hyder yn eu gallu a'u hymarfer.

Mae'r canllawiau yn cynnig arweiniad ymarferol wedi'i deilwra ar gyfer gweithio yng nghartrefi pobl. Rydym yn cydnabod y gall y gwaith achosi heriau unigryw, gan fod gweithwyr yn aml yn gweithio ar eu pennau eu hunain ac heb oruchwyliaeth, weithiau yn delio â sefyllfaoedd annisgwyl. Rydym eisiau sicrhau fod y canllawiau ar gael i’w cyfeirio atynt bob amser.

Pwy ddylai gymryd rhan?

Rydym eisiau sicrhau bod y gweithlu'n teimlo fod y canllawiau'n briodol ac yn annog pobl sy'n gweithio ym maes gofal cartref a'u rheolwyr i roi adborth ar ei gynnwys.

Mae nifer o weithwyr a rheolwyr eisoes wedi dylanwadu ar y canllawiau trwy gymryd rhan mewn gweithdai ymgysylltu dros yr haf.

Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus hwn yn ei gwneud yn bosibl i bawb gael dweud eu dweud, gan gynnwys pobl sy'n derbyn gofal a chymorth, eu teuluoedd a'u gofalwyr.

Beth ydym ni am ei ddarganfod?

  • A yw'r canllawiau'n briodol ar gyfer gweithwyr gofal cartref?
  • Ydy'r fformat, iaith a'r arddull yn addas?
  • Sut y gallwn sicrhau bod y canllawiau ar gael i bob gweithiwr gofal cartref. Er enghraifft, a ddylid ei gynhyrchu fel app symudol, yn ogystal â llyfryn digidol? A all cyflogwyr helpu i sicrhau bod gan eu staff fynediad ato?

Sut ydw i'n cymryd rhan?

Mae cymryd rhan yn hawdd. Lawrlwythwch y canllawiau drafft a chwblhau yr arolwg byr ar-lein isod.

Y dyddiad cau ar gyfer sylwadau yw 19 Ionawr 2018.

Cefndir a camau nesaf

Mae'r canllawiau yn rhan o fenter ehangach i godi statws y proffesiwn gofal cymdeithasol. Yn ddiweddar gwnaethom ni gynnal ymgynghoriad ar gynigion i agor y gofrestr gofal cymdeithasol i weithwyr gofal cartref o 2018, gyda posibilrwydd bydd rhaid iddynt gofrestru erbyn 2020. Mae'r cynigion hyn wedi'u cynllunio i helpu i drawsnewid safonau gofal a chodi statws y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Datganwyd yn Ionawr 2018 y byddwn yn bwrw mlaen gyda cofrestru gweithwyr gofal cartref. Byddwn yn cyhoeddi mwy o fanylion am weddill y cynigion, megis ffioedd a cymwysterau angenrheidiol, yn yr wythnosau nesaf.

Mae'r ddogfen hon wedi'i ddrafftio ar ffurf canllawiau rheoleiddiol, fel y bydd gan weithwyr gofal cartref safonau eglur a chyson i weithio atynt ochr yn ochr â'r Côd. Mae hyn yn cyd-fynd â'r canllawiau a ddarperir ar gyfer grwpiau eraill sydd eisoes wedi'u cofrestru gyda ni.

Bydd pob adborth yn cael ei ystyried cyn i ni gyhoeddi'r fersiwn derfynol ym mis Ebrill 2018.