Gallwch ddod o hyd i wybodaeth bwysig ar gyfer prosiectau a sefydliadau sydd wedi ymgeisio ar gyfer Gwobrau 2024 yma
Pwy all ymgeisio ar gyfer y Gwobrau?
Mae'r Gwobrau yn agored i unrhyw dîm, grŵp neu sefydliad sy'n darparu gofal cymdeithasol neu ofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
Mae ein beirniaid yn chwilio am brosiectau, timau a sefydliadau sy'n dangos ffyrdd newydd o weithio ac sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau’r bobl y maen nhw’n eu cefnogi.
Y beirniadu
Mae dwy ran i'r beirniadu:
- Bydd ein panel o feirniaid yn sgorio'r holl gynigion ac yn cwrdd ym mis Rhagfyr i gytuno ar restr fer o'r ceisiadau â'r sgôr uchaf
- Bydd y beirniaid yn cwrdd â'r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer rhwng 22 Ionawr a 9 Chwefror 2024. Yna byddan nhw’n dewis y rhai a fydd yn cyrraedd y rownd derfynol ac enillwyr pob categori.
Byddwn ni’n rhoi gwybod i chi a yw'ch cais wedi bod yn llwyddiannus erbyn 12 Ionawr 2024. Os bydd eich cais yn cyrraedd y rownd derfynol, byddwn ni’n rhoi gwybod i chi ddiwedd mis Chwefror 2024.
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn ystod y seremoni wobrwyo ar 25 Ebrill 2024.
Gall y beirniaid symud eich cais i gategori gwahanol os ydyn nhw'n teimlo ei fod yn briodol.
Y rheolau cystadlu
Y rheolau cystadlu ar gyfer grwpiau, timau a sefydliadau yw:
Cyffredinol
- Mae mynediad am ddim
- Mae'r Gwobrau yn agored i dimau, prosiectau neu sefydliadau o'r sector gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar
- Rhaid i'ch tîm, prosiect neu sefydliad fod wedi'i leoli ac yn gweithio yng Nghymru
- Rhaid bod peth o'r gwaith y cyfeiriwch ato yn eich cais digwydd ers mis Tachwedd 2022
- Ni fyddwn ni’n derbyn unrhyw geisiadau ar ôl y dyddiad a'r amser cau (5pm, ddydd Gwener, 3 Tachwedd 2023)
Eich cais
- Rhaid i chi ateb pob cwestiwn yn y ffurflen gais
- Rhaid i chi gadw at y terfyn geiriau – ni fydd y beirniaid yn ystyried unrhyw geisiadau sy'n mynd dros y terfyn geiriau
- Dim ond yr wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn y ffurflen gais y bydd y beirniaid yn ei hystyried ac ni fyddan nhw’n ystyried deunydd ychwanegol, fel lluniau neu fideos
- Rhaid i chi ddarparu manylion cyswllt llawn rhywun o’ch tîm, brosiect neu sefydliad er mwyn i ni allu gysylltu â chi
- Rhaid i chi sicrhau eich bod yn gymwys i gyflwyno'r cais ar ran eich tîm, brosiect neu sefydliad
- Dylech chi gyfeirio at y safonau ymddygiad ac ymarfer a ddisgwylir gan weithwyr yn y sectorau gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yn eich cais
- Dylech chi ddangos sut mae peth neu'r holl waith rydych chi'n cyfeirio ato yn eich cais yn newydd ac yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau'r bobl yr ydych chi’n eu cefnogi
- Efallai y byddwn ni’n defnyddio'r wybodaeth yn eich ffurflen gais i hyrwyddo'r Gwobrau
- Byddwn ni’n rhoi gwybod i chi am ganlyniad eich cais erbyn 12 Ionawr 2024
- Ni allwn ddychwelyd eich ffurflen gais.
Y telerau ac amodau
Dylech chi wneud yn siŵr eich bod wedi darllen ac yn deall y telerau ac amodau canlynol cyn i chi anfon eich cais wedi'i gwblhau atom:
Cyhoeddusrwydd
Rhaid i'ch tîm, brosiect neu sefydliad gytuno y gallwn ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu ar eich ffurflen gais i:
- hyrwyddo a rhoi cyhoeddusrwydd i'r Gwobrau
- rhannu ymarfer nodedig a helpu eraill i ddysgu yn y sectorau gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar.
Byddwn ni’n gwneud ffilm fer o’r holl brosiectau fydd yn cyrraedd y rownd derfynol a fydd yn cael ei dangos yn y seremoni wobrwyo.
Bydd y ffilmio’n debygol o ddigwydd ym mis Chwefror a Mawrth 2024 a bydd disgwyl i'r holl gystadleuwyr yn y rownd derfynol sicrhau bod pobl ar gael ar gyfer y ffilmio. Bydd y rhai sy'n cyrraedd y rownd derfynol yn derbyn mwy o wybodaeth am y ffilmio ym mis Chwefror 2024.
Gall pawb sy’n cyrraedd y rownd derfynol dderbyn cyhoeddusrwydd yn y cyfryngau yng Nghymru.
Beirniadu
Bydd ein panel beirniadu’n dewis y rhai sy'n cyrraedd y rownd derfynol a'r enillwyr. Dim ond un enillydd fydd ym mhob categori.
Rhaid i aelodau'r panel beirniadu beidio â bod ag unrhyw gysylltiad â'r prosiectau sydd wedi ymgeisio ar gyfer y Gwobrau.
Bydd penderfyniad y beirniaid yn derfynol ac ni fyddwn ni’n gohebu am eu penderfyniad.
Rhaid i brosiectau ar y rhestr fer fod ar gael i gyfarfod â'n beirniaid rhwng 22 Ionawr ac 9 Chwefror 2024.
Y seremoni a'r gwobrau
Bydd enillydd pob categori yn ennill tlws a bydd pawb sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael tystysgrif. Ni fydd unrhyw wobrau ariannol na chyfwerth.
Bydd pawb sy'n cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu gwahodd i fynychu seremoni wobrwyo'r Gwobrau, a fydd yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd ar 25 Ebrill 2024. Os na all y sawl sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol fynychu’r seremoni, bydd angen iddyn nhw roi gwybod i ni o flaen llaw a dweud wrthym pwy fydd yn derbyn y wobr neu’r dystysgrif ar eu rhan.
Bydd y rhai sy'n cyrraedd y rownd derfynol yn cael gwybod faint o lefydd fydd ganddyn nhw yn y seremoni wobrwyo. Bydd unrhyw un sy'n mynychu'r seremoni yn gyfrifol am eu costau teithio a llety eu hunain.
Os byddwn ni’n darganfod bod ymgeisydd wedi torri'r rheolau – cyn neu ar ôl cyflwyno Gwobr – gall y beirniaid wahardd yr ymgeisydd. Os digwydd hyn, rhaid dychwelyd y tlws a'r dystysgrif atom ar unwaith.
Dyddiadau pwysig i'w nodi ar gyfer timau, grwpiau a sefydliadau
- Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 5pm, 3 Tachwedd 2023
- Hysbysu'r rhai sy'n cyrraedd y rhestr fer: erbyn 12 Ionawr 2024
- Cyfarfodydd y beirniaid â’r rhai fydd yn cyrraedd y rhestr fer: 22 Ionawr i 9 Chwefror 2024
- Cyhoeddi enwau'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol: 21 Chwefror 2024
- Seremoni wobrwyo: 25 Ebrill 2024