CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Gwybodaeth os ydych chi wedi enwebu gweithiwr ar gyfer Gwobrau 2024

Os ydych chi wedi enwebu gweithiwr ar gyfer Gwobrau 2024, gallwch ddod o hyd i wybodaeth defnyddiol am y broses yma

Pwy ellir gael ei enwebu

Mae'r Gwobrau ar gyfer gweithwyr yn agored i unrhyw weithiwr cyflogedig, wirfoddolwr neu prentis sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol neu ofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

Gallan nhw weithio yn y sectorau cyhoeddus, preifat, gwirfoddol neu gydweithredol, ac mewn unrhyw rôl. Gallent, er enghraifft, weithio mewn cartref gofal, meithrinfa neu fel gweithiwr gofal cartref. Gallant weithio gyda phlant, oedolion, teuluoedd neu ofalwyr.

Rydyn ni’n chwilio am weithwyr sydd nid yn unig yn cyflawni eu tasgau bob dydd, ond sy’n mynd y tu hwnt i ofyniad eu rôl ac sydd wir yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl.

Disgwylir i bob gweithiwr sydd wedi'i enwebu am Wobr fodloni’r safonau ymddygiad ac ymarfer a nodir yn y Côd Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol (y Côd).

Y beirniadu

Bydd ein panel o feirniaid yn ystyried ac yn llunio rhestr fer o'r holl enwebiadau a dderbyniwn. Yna byddan nhw’n cwrdd ganol mis Rhagfyr i benderfynu ar y rhai a fydd cyrraedd y rownd derfynol.

Byddwn ni’n rhoi gwybod i chi a'ch enwebai erbyn 12 Ionawr 2024 os fyddan nhw wedi cyrraedd y rownd derfynol.

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod seremoni’r Gwobrau ar 25 Ebrill 2024.

Y rheolau cystadlu

Y rheolau cystadlu ar gyfer gweithwyr ar gyfer Gwobrau 2024 yw:

Cyffredinol

  • Mae mynediad am ddim
  • Mae'r Gwobrau ar gyfer gweithwyr yn agored i unrhyw weithiwr gofal cyflogedig, wirfoddolwr neu prentis sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar
  • Rhaid i weithwyr a gaiff eu henwebu weithio yng Nghymru
  • Rhaid bod y gwaith rydych chi'n cyfeirio ato ar y ffurflen enwebu fod wedi cael ei wneud ers mis Tachwedd 2022
  • Ni allwch enwebu rhywun rydych chi'n perthyn yn agos iddo – er enghraifft, ni allwch enwebu'ch gwraig, gŵr, mab neu ferch – neu rywun rydych chi mewn perthynas bersonol â hwy
  • Ni fyddwn ni’n derbyn enwebiadau ar gyfer mwy na dau aelod o staff o’r un gweithle neu sefydliad mewn unrhyw un categori
  • Rhaid i'r gweithiwr rydych chi’n ei enwebu weithio yn unol â'r safonau ymddygiad ac ymarfer a nodir yn y Côd Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol
  • Ni fyddwn ni’n derbyn unrhyw enwebiadau ar ôl y dyddiad a'r amser cau (5pm, ddydd Gwener, 3 Tachwedd 2023)

Eich enwebiad

  • Rhaid i chi ateb pob cwestiwn ar y ffurflen enwebu
  • Rhaid i chi gadw at y terfyn geiriau – ni fyddwn ni’n ystyried unrhyw enwebiadau sy'n mynd dros y terfyn geiriau
  • Dim ond yr wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y ffurflen enwebu y bydd y beirniaid yn ei hystyried ac ni fyddan nhw’n ystyried unrhyw ddeunydd ychwanegol, fel lluniau neu fideos
  • Rhaid i chi ddarparu manylion cyswllt llawn ar eich cyfer chi a'r person rydych chi'n ei enwebu er mwyn i ni allu cysylltu â chi
  • Rhaid i chi sicrhau bod gennych chi ganiatâd y person rydych chi'n ei enwebu i'w henwebu cyn cyflwyno'r ffurflen
  • Efallai y byddwn ni’n defnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi i ni ar y ffurflen enwebu i hyrwyddo'r Gwobrau
  • Byddwn ni’n rhoi gwybod i chi am ganlyniad eich enwebiad erbyn 12 Ionawr 2024
  • Ni allwn ni ddychwelyd eich ffurflen enwebu atoch chi.

Telerau ac amodau

Dylech chi wneud yn siŵr eich bod chi a’r person rydych chi’n ei enwebu wedi darllen ac yn deall y telerau ac amodau cyn i chi anfon eich enwebiad atom:

Cyhoeddusrwydd

Rhaid i chi a'r person rydych chi'n ei enwebu gytuno y gallwn ni ddefnyddio'r wybodaeth ar y ffurflen enwebu i:

  • hyrwyddo a rhoi cyhoeddusrwydd i'r Gwobrau
  • rhannu ymarfer nodedig o bwys a helpu eraill i ddysgu yn y sectorau gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar.

Byddwn ni’n cynhyrchu ffilm fer o bawb sy’n cyrraedd y rownd derfynol, a fydd yn cael ei dangos yn y seremoni wobrwyo.

Bydd y ffilmio’n debygol o ddigwydd rhwng Ionawr a Chwefror 2024, a bydd disgwyl i bawb sy’n cyrraedd y rownd derfynol fod ar gael ar gyfer y ffilmio. Byddwn ni’n anfon mwy o wybodaeth am y ffilmio at y rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol ym mis Ionawr 2024.

Gallai'r rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol dderbyn cyhoeddusrwydd yn y cyfryngau yng Nghymru.

Beirniadu

Bydd ein panel beirniadu yn penderfynu pwy fydd yr enillydd a'r rhai fydd yn cyrraedd y rownd derfynol. Dim ond un enillydd fydd ym mhob categori.

Rhaid i aelodau'r panel beirniadu beidio â bod ag unrhyw gysylltiad â'r gweithwyr gofal a enwebwyd ar gyfer y Gwobrau.

Bydd penderfyniad y beirniaid yn derfynol ac ni fyddwn ni’n gohebu am eu penderfyniad.

Y seremoni a'r gwobrau

Bydd enillydd pob categori yn cael tlws a bydd pawb sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael tystysgrif. Ni fydd unrhyw wobrau ariannol na chyfwerth.

Bydd pawb sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu gwahodd i fynychu seremoni wobrwyo’r Gwobrau ar 25 Ebrill 2024. Os na all y sawl sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol fynychu’r seremoni, bydd angen iddyn nhw roi gwybod i ni o flaen llaw a dweud wrthym pwy fydd yn derbyn y wobr neu’r dystysgrif ar eu rhan.

Bydd y rhai sy'n cyrraedd y rownd derfynol yn cael gwybod faint o lefydd a fydd ganddyn nhw yn y seremoni wobrwyo. Bydd unrhyw un sy'n mynychu'r seremoni yn gyfrifol am eu costau teithio a llety eu hunain.

Os fyddwn ni’n darganfod bod rhywun sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol neu eu henwebydd wedi torri'r rheolau – cyn neu ar ôl cyflwyno Gwobr – gall y beirniaid wahardd y gweithiwr. Os digwydd hyn, rhaid dychwelyd y tlws a'r dystysgrif atom ar unwaith.

Dyddiadau pwysig

  • Dyddiad cau: 5pm, 3 Tachwedd 2023
  • Cyhoeddi enwau'r gweithwyr sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol: 12 Ionawr 2024
  • Ffilmio’r gweithwyr sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol: 29 Ionawr i 16 Chwefror 2024
  • Seremoni wobrwyo: 25 Ebrill 2024