CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Rhowch eich barn am strategaeth y gweithlu ar gyfer gofal cymdeithasol
Newyddion

Rhowch eich barn am strategaeth y gweithlu ar gyfer gofal cymdeithasol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Ers yr haf diwethaf rydyn ni wedi bod yn siarad â phobl ledled Cymru ac yn gofyn iddyn nhw ein helpu ni i lunio cam nesaf y broses o gyflawni ein strategaeth gweithlu, Cymru Iachach: Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Rydyn ni wedi gwrando ar yr hyn oedd gan bobl i’w ddweud, rydyn ni wedi edrych ar ddata, adroddiadau ac ymrwymiadau polisi, ac rydyn ni wedi creu cynllun gweithredu ar gyfer y tair blynedd nesaf.

Nawr, hoffwn i chi fynegi eich barn am ein cynllun.

Os oes gennych chi ddiddordeb yn y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, neu os ydych chi’n gweithio ym maes gofal, yn gwirfoddoli neu’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth, dyma’ch cyfle i ddweud eich dweud.

Dywedodd Sue Evans, ein Prif Weithredwr: “Mae’r sector wedi’i gwneud yn glir i ni fod angen i’w llesiant gael ei gefnogi, gyda threfniadau gweithio hyblyg, gwell telerau ac amodau a chydraddoldeb gyda’r GIG, o ran cyflog, cyfleoedd dysgu a datblygiad gyrfa.

“Mae’r holl dystiolaeth yn cadarnhau y bydd gweithlu sy'n cael ei werthfawrogi a'i gefnogi yn gallu darparu gofal a chymorth o ansawdd uchel yn well. Bydd eich barn yn ein helpu ni i flaenoriaethu'r hyn sydd angen ei wneud."

Dywedodd Albert Heaney, Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru: “Mae hwn yn gyfle gwirioneddol i’n holl randdeiliaid, ac yn wir unrhyw un sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol neu’n ei ddefnyddio, i rannu eu barn i ddylanwadu ar y cynllun hwn a’i lunio.

“Mae’n bwysig cael y camau hyn yn iawn i gefnogi a chyflawni ar gyfer ein gweithlu gofal cymdeithasol. Edrychaf ymlaen at weld yr ymatebion i’r ymgynghoriad.”

Ychwanegodd Jenny Williams, Cyfarwyddwr Strategol Gofal Cymdeithasol ac Addysg yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyfarwyddwr Gweithlu Arweiniol ar gyfer Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSSC):

“Mae ADSSC yn falch o gefnogi’r strategaeth bwysig hon ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac edrychwn ymlaen at geisio barn sefydliadau a’r rhai y mae gofal cymdeithasol yn effeithio arnyn nhw, neu sy’n ei ddefnyddio bob dydd.

“Bydd hyn yn werthfawr iawn ac yn sicrhau bod gennym ni ddull addas i’r diben a pherthnasol ar gyfer y gweithlu yn y dyfodol.”

Sut i ymateb

Rhowch eich barn am ein camau gweithredu arfaethedig i gefnogi’r gweithlu gofal cymdeithasol a gwaith cymdeithasol dros y tair blynedd nesaf.

Mae'r ymgynghoriad ar agor o 15 Mai tan hanner nos, 25 Mehefin.