CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Y wybodaeth diweddaraf am coronafeirws (COVID-19)
Newyddion

Y wybodaeth diweddaraf am coronafeirws (COVID-19)

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Dyma wybodaeth fwyaf diweddar am coronafeirws (COVID-19). Mae'n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru - Coronfeirws ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ogystal â chanllawiau penodol ar gyfer y rhai sy’n darparu gofal a chymorth i eraill. Cyn bo hir, byddwn ni hefyd yn darparu atebion i rai o’r cwestiynau cyffredin rydyn ni’n derbyn gan bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru.

Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wybodaeth am:

  • y sefyllfa ddiweddaraf am coronafeirws yng Nghymru, gan gynnwys y nifer o achosion
  • sut i leihau’r risg o ddal neu ledaenu coronafeirws
  • beth i’w wneud os oes gennych chi symptomau
  • ymneilltuo, gan gynnwys cwestiynau ac atebion.

Mae gwybodaeth fwy penodol ar gael ar gyfer y rhai sy’n darparu:

Yn ogystal ceir canllawiau ar atal a rheoli heintiau ar gyfer COVID-19.

Er y gall y wybodaeth hon cynnwys cyfeiriadau penodol at Loegr, mae’r cyngor cyffredinol yn dal i fod yn berthnasol i’r DU gyfan.

(Mae’r wybodaeth hon ar gael yn Saesneg yn unig).

Gallwch lawrlwytho posteri yn Gymraeg a Saesneg y gallwch eu hargraffu ar gyfer eich gweithle sy’n darparu cyngor i weithwyr sydd gyda symptomau coronafeirws ac i’r rhai sydd angen ymneilltuo adref.