CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Tynnu rheolwr gofal cartref o’r Gofrestr oherwydd methiannau diogelu difrifol
Newyddion

Tynnu rheolwr gofal cartref o’r Gofrestr oherwydd methiannau diogelu difrifol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae rheolwr gofal cartref o Fro Morgannwg wedi'i dynnu oddi ar y Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad Gofal Cymdeithasol Cymru ganfod bod ei addasrwydd i ymarfer wedi'i amharu ar hyn o bryd oherwydd methiannau diogelu difrifol.

Dywedwyd wrth y gwrandawiad fod Keith Marchant wedi methu gweithredu pan gododd cydweithwyr bryderon ar sawl achlysur am afreoleidd-dra ariannol yn y gwasanaeth a bod aelod o staff yn cam-drin pobl oedd yn derbyn gofal a chymorth yn emosiynol.

Ar ôl ystyried y dystiolaeth, daeth y panel i'r casgliad bod nam ar addasrwydd Mr Marchant i ymarfer ar hyn o bryd oherwydd methiannau diogelu difrifol.

Wrth esbonio ei benderfyniad, dywedodd y panel: "Ni ddilynodd Mr Marchant unrhyw weithdrefn i herio ac adrodd ar yr arferion honedig o gam-drin. Yn hytrach, ceisiodd leihau'r pryderon a nodi y byddai staff yn mynd i drafferth am godi'r honiadau.

"Rydym yn canfod bod Mr Marchant wedi dangos diffyg mewnwelediad i'w ymddygiad ac wedi methu bod yn atebol am ei weithredoedd. Mae hefyd wedi methu arddangos unrhyw ystyriaeth o ganlyniadau posibl ei weithredoedd ar y rhai dan sylw, ac nid ydym yn hyderus na fydd ei ymddygiad yn debygol iawn o gael ei ailadrodd.

Aeth y panel ymlaen i ddweud: "Rydym yn canfod bod Mr Marchant wedi gweithredu mewn ffordd sy'n peri risg i unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau ac sy'n agored i wneud hynny eto yn y dyfodol. Credwn fod ei fethiant i ddilyn y broses a gweithredu ar bryderon yn amlygu defnyddwyr gwasanaeth i'r potensial ar gyfer cam-drin ariannol ac emosiynol.

"Nid ydym wedi cael unrhyw dystiolaeth i awgrymu ei fod wedi cymryd unrhyw gamau i fynd i'r afael â'i ymddygiad ac nid ydym yn hyderus na fyddai'n ailadrodd yr un ymddygiad pe bai mewn sefyllfa debyg yn y dyfodol."

Penderfynodd y panel dynnu Mr Marchant oddi ar y Gofrestr, gan ddweud: "Yn ein barn ni, [Gorchymyn Dileu] yw'r unig ganlyniad sy'n bodloni'r angen i amddiffyn aelodau o'r cyhoedd a'r angen i ddiogelu hyder y cyhoedd.

"Rydym yn canfod bod ymddygiad Mr Marchant yn sylfaenol anghydnaws â chofrestru fel gweithiwr gofal cymdeithasol. Mae ei ymddygiad wedi disgyn ymhell islaw’r safonau proffesiynol a ddisgwylir ganddo ac amlygodd unigolion agored i niwed sy'n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth i gam-drin emosiynol ac ariannol."

Nid oedd Mr Marchant yn bresennol yn y gwrandawiad undydd, a gynhaliwyd dros Zoom yr wythnos diwethaf.