CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Tynnu gweithiwr gofal preswyl i blant o’r Gofrestr oherwydd camymddwyn difrifol
Newyddion

Tynnu gweithiwr gofal preswyl i blant o’r Gofrestr oherwydd camymddwyn difrifol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae gweithiwr gofal preswyl i blant o Sir y Fflint wedi cael ei dynnu o’r Gofrestr Gweithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad Gofal Cymdeithasol Cymru ganfod bod ei addasrwydd i ymarfer wedi’i amharu ar hyn o bryd oherwydd camymddwyn difrifol.

Dywedwyd wrth y gwrandawiad bod Ryan Howells, ym mis Medi 2018, wedi defnyddio grym anghymesur i afael yng ngwddf person ifanc agored i niwed a oedd yn ei ofal, a achosodd i Mr Howells gael ei atal o’i swydd dros dro gan ei gyflogwr.

Dywedwyd wrth y gwrandawiad hefyd fod Mr Howells wedi siarad â’i gydweithiwr mewn ffordd amhriodol, ac nad oedd wedi dilyn polisi ei gyflogwr ar ffonau symudol trwy ddefnyddio ei ffôn symudol personol yn y gwaith a dangos delwedd arno i’r person ifanc.

Ar ôl ystyried y dystiolaeth, daeth y panel i’r casgliad bod addasrwydd Mr Howells i ymarfer wedi’i amharu ar hyn o bryd oherwydd camymddwyn difrifol.

Esboniodd y panel ei benderfyniad, trwy ddweud: “Ystyriwn fod ymddygiad cyffredinol Mr Howells, sef defnyddio ei ffôn symudol personol, rhegi at gydweithiwr ym mhresenoldeb defnyddwyr gwasanaeth ac achosi niwed [i’r person ifanc] trwy ei ymatal mewn ffordd amhriodol, yn gallu cael ei ddisgrifio’n briodol fel ymddygiad gresynus.”

Aeth y panel ymlaen i ddweud: “Nid yw Mr Howells yn cydnabod ei fod wedi gwneud unrhyw beth o’i le ac mae wedi dangos diffyg dirnadaeth llwyr ynglŷn â’i ymddygiad.

“Nid yw wedi ceisio unioni ei ymddygiad ar ôl i achos Gofal Cymdeithasol Cymru gael ei ddechrau ac ni roddwyd unrhyw dystiolaeth i ni o fyfyrio na gwersi a ddysgwyd…

“At hynny, nid yw Mr Howells wedi dangos unrhyw edifeirwch am ei weithredoedd na dangos unrhyw empathi o ran yr effaith bosibl [ar y bobl ifanc dan sylw]. Yn absenoldeb unrhyw gamau unioni, dirnadaeth, edifeirwch nac ymgysylltiad gan Mr Howells, ystyriwn fod perygl sylweddol o ailadrodd ei ymddygiad.”

Penderfynodd y panel i dynnu Mr Howells o’r Gofrestr, gan ddweud: “Mae Mr Howells wedi dangos difaterwch ynglŷn â’r safonau proffesiynol a amlinellir yn y Côd Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol, a gwyriad difrifol oddi wrthynt.”

Aeth y panel ymlaen i ddweud: “Nid ydym o’r farn fod unrhyw ffordd arall o ddiogelu’r cyhoedd o ganlyniad i’w ddiffyg dirnadaeth llwyr ac unrhyw dystiolaeth bod ei nam yn debygol o gael ei gywiro’n foddhaol.”

Nid oedd Mr Howells yn bresennol yn y gwrandawiad tridiau o bell, a gynhaliwyd dros Zoom yr wythnos ddiwethaf.