CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Tynnu gweithiwr gofal cartref o’r Gofrestr oherwydd pryderon diogelu difrifol
Newyddion

Tynnu gweithiwr gofal cartref o’r Gofrestr oherwydd pryderon diogelu difrifol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae gweithiwr gofal cartref o Gaerdydd wedi cael ei thynnu oddi ar y Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad Gofal Cymdeithasol Cymru ganfod bod ei haddasrwydd i ymarfer wedi amharu ar hyn o bryd.

Cafodd Emma Fagg ei hatal o’i rôl gofal yng Ngorffennaf 2020 oherwydd pryderon diogelu difrifol.

Ar ôl ystyried y dystiolaeth, daeth y panel i’r casgliad fod addasrwydd i ymarfer Ms Fagg wedi amharu ar hyn o bryd oherwydd pryderon diogelu difrifol.

Gan esbonio ei benderfyniad, dywedodd y panel: “Mae Ms Fagg wedi dangos diffyg dirnadaeth am ei hymddygiad.

“Nid ydyw wedi dangos unrhyw edifeirwch nag atgno am ei hymddygiad ac nid ydym yn hyderus bod ei hymddygiad yn annhebygol iawn o gael ei ailadrodd.”

Ychwanegodd y panel: “Nid ydym wedi derbyn unrhyw dystiolaeth sy’n awgrymu bod [Ms Fagg] wedi cymryd unrhyw gamau i ddelio â’i hymddygiad.”

Penderfynodd y panel dynnu Ms Fagg o’r Gofrestr, gan ddweud: “Yn ein barn ni [dyma’r] unig ganlyniad sy’n cyrraedd y gofynion i ddiogelu aelodau o’r cyhoedd a’r angen i ddiogelu hyder y cyhoedd.”

Mae gan Ms Fagg yr hawl i apelio i’r Tribiwnlys Safonau Gofal o fewn 28 diwrnod.

Nid oedd Ms Fagg yn bresennol ar gyfer y gwrandawiad un diwrnod, a gynhaliwyd dros Zoom wythnos diwethaf.