CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Tynnu gweithiwr gofal cartref o’r Gofrestr oherwydd camymddwyn difrifol ac euogfarn droseddol
Newyddion

Tynnu gweithiwr gofal cartref o’r Gofrestr oherwydd camymddwyn difrifol ac euogfarn droseddol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae gweithiwr gofal cartref, wedi’i leoli yng Ngwynedd, wedi cael ei dynnu o’r Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad Gofal Cymdeithasol Cymru ganfod bod ei addasrwydd i ymarfer wedi’i amharu ar hyn o bryd oherwydd camymddwyn difrifol ac euogfarn droseddol.

Dywedwyd wrth y gwrandawiad bod Iestyn Owen wedi mynd i’r gwaith ar 6 Mawrth 2020 dan ddylanwad canabis, a ganfuwyd trwy brawf cyffuriau yn y gwaith.

Dridiau’n ddiweddarach, cafwyd Mr Owen yn euog yn Llys Ynadon Caernarfon o yrru dan ddylanwad MDMA yn dilyn digwyddiad ar wahân ym mis Hydref 2019.

Ar ôl clywed y dystiolaeth, penderfynodd y panel fod addasrwydd Mr Owen i ymarfer wedi’i amharu ar hyn o bryd oherwydd ei gamymddwyn difrifol a’i euogfarn droseddol.

Wrth esbonio ei benderfyniad, dywedodd y panel: “Roedd Mr Owen yn gweithio gydag unigolion agored i niwed. Clywsom fod hyn yn golygu mynd i gartrefi pobl agored i niwed ac weithiau gofalu amdanynt yn unigol.

“Clywsom hefyd mai rôl Mr Owen oedd gyrru unigolion agored i niwed i weithgareddau ac apwyntiadau eraill yn y gymuned.

“Yn ein barn ni, mae risg glir ac amlwg o niwed sylweddol i unigolion agored i niwed sy’n derbyn gofal gan unigolyn sy’n defnyddio cyffuriau anghyfreithlon.”

Aeth y panel ymlaen i ddweud: “Nid oes tystiolaeth ger ein bron i ddangos bod Mr Owen wedi datblygu unrhyw fewnwelediad ynglŷn â’i broblem gyffuriau, er iddo gwblhau cwrs adsefydlu yn rhan o’r ddedfryd a roddwyd gan Lys Ynadon Caernarfon…

“Nodwn fod Mr Owen yn dweud mai’r unig reswm y cwblhaodd y cwrs hwnnw oedd oherwydd bod ei gyfreithiwr wedi’i gynghori i wneud hynny, nid oherwydd ei fod yn derbyn bod ganddo ddibyniaeth ar gyffuriau yr oedd angen ei thrin.”

Ychwanegodd y panel: “Yn absenoldeb unrhyw fewnwelediad go iawn ac unrhyw gamau unioni ystyrlon, credwn ei bod yn annhebygol y byddai Mr Owen yn gwneud penderfyniadau gwahanol ac yn ymddwyn yn wahanol yn y dyfodol.

“Mae hyn yn golygu nid yn unig ei fod yn debygol o achosi risg i ddefnyddwyr gofal a chymorth yn y dyfodol, ond ei fod hefyd yn debygol o ymddwyn mewn ffordd sy’n tanseilio ffydd y cyhoedd yn y proffesiwn, ac yn debygol o dorri egwyddorion sylfaenol y proffesiwn.”

Penderfynodd y panel ddileu Mr Owen o’r Gofrestr, gan ddweud: “Rydym yn ymwybodol mai’r penderfyniad hwn yw’r un llymaf sydd ar gael i ni, ond daethom i’r casgliad, yn achos Mr Owen, nad oes unrhyw ffordd arall o ddiogelu’r cyhoedd rhag y risgiau y mae’n eu cyflwyno.”

Nid oedd Mr Owen yn bresennol yn y gwrandawiad tridiau, a gynhaliwyd trwy Zoom yr wythnos ddiwethaf.