CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Tynnu gweithiwr gofal cartref o’r Gofrestr oherwydd camymddwyn difrifol
Newyddion

Tynnu gweithiwr gofal cartref o’r Gofrestr oherwydd camymddwyn difrifol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae gweithiwr gofal cartref o Flaenau Gwent wedi cael ei dynnu o’r Gofrestr Gweithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad Gofal Cymdeithasol Cymru ganfod bod ei addasrwydd i ymarfer wedi’i amharu ar hyn o bryd oherwydd camymddwyn difrifol.

Dywedwyd wrth y gwrandawiad bod Anthony Smith, ar 2 Mehefin 2020, wedi cael ei ddal ar CCTV yn dwyn alcohol oddi ar unigolyn a oedd yn ei ofal a’i yfed ar ddyletswydd.

Fe’i daliwyd hefyd yn troethi yn sinc cegin yr unigolyn, peidio â newid ei fenig ar ôl y digwyddiad a pheidio â gwisgo gorchudd wyneb drwy gydol yr ymweliad, er ei fod yn cael pyliau o beswch a thisian.

Clywodd y panel hefyd fod Mr Smith wedi honni’n gelwyddog fod unigolyn a oedd yn ei ofal yn ceisio hunan-niweidio ac y bu’n rhaid iddo gymryd llafn oddi arno trwy rym.

Yn ogystal, ar 23 Mai 2020, nid oedd Mr Smith wedi ymweld â’r holl bobl a neilltuwyd iddo na dweud wrth ei gyflogwr ei fod wedi gadael ei sifft, ac nid oedd wedi ymateb i alwadau na negeseuon testun gan ei gyflogwr. Rhoddodd Mr Smith esboniadau gwahanol i’w gyflogwr ynglŷn â pham y gadawodd ei sifft y diwrnod hwnnw, gan gynnwys ei fod wedi syrthio i gysgu yn ei gar a bod ei wraig wedi cael prawf Covid-19 positif.

Ar ôl clywed y dystiolaeth, penderfynodd y panel fod addasrwydd Mr Smith i ymarfer wedi’i amharu ar hyn o bryd oherwydd camymddwyn difrifol.

Wrth esbonio ei benderfyniad, dywedodd y panel: “[R]oedd yr ymddygiad y canfuom ei fod wedi’i brofi yn amlwg iawn yn torri’r ymddiriedaeth yr oedd pobl agored i niwed a’u teuluoedd wedi’i rhoi yn Mr Smith i ddarparu’r gofal diogel a phriodol yr oedd ganddynt hawl i’w ddisgwyl.”

Aeth y panel ymlaen i ddweud: “[N]id oes tystiolaeth o unrhyw graffter ystyrlon ger ein bron, na thystiolaeth bod Mr Smith wedi cymryd unrhyw gamau i unioni’r gweithredoedd a arweiniodd at yr achosion o dorri’r Côd a amlygwyd gennym.”

Wrth esbonio ymhellach, dywedodd y panel: “Mae diffyg craffter Mr Smith yn creu perygl presennol i unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau. Mae hyn, yn ein barn ni, yn gwaethygu’r materion gan ei fod yn dangos diffyg craffter ynglŷn ag effaith bosibl ei ymddygiad ar bobl agored i niwed yr oedd ganddo ddyletswydd broffesiynol iddynt.

“Wrth edrych at y dyfodol, mae’r mater hwn yn peri cryn bryder oherwydd bod Mr Smith, yn ein barn ni, yn achosi perygl tebyg i unigolion agored i niwed y gallai weithio gyda nhw yn y dyfodol.”

Penderfynodd y panel i dynnu Mr Smith o’r Gofrestr, gan ddweud, “[B]u gwyriad difrifol oddi wrth y safonau perthnasol a amlinellir yn y Côd. Nid ydym o’r farn y byddai unrhyw benderfyniad llai yn diogelu’r cyhoedd. Y rheswm am hyn yw oherwydd y perygl niwed y credwn ei fod yn bresennol, y diffyg craffter ac unioni yr ydym eisoes wedi cyfeirio ato, a’r canfyddiadau o anonestrwydd a wnaed gennym.”

Nid oedd Mr Smith yn bresennol yn y gwrandawiad pedwar diwrnod o bell, a gynhaliwyd trwy Zoom yr wythnos ddiwethaf.