CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Tynnu gweithiwr gofal cartref oddi ar y Gofrestr oherwydd euogfarnau troseddol a chamymddwyn difrifol
Newyddion

Tynnu gweithiwr gofal cartref oddi ar y Gofrestr oherwydd euogfarnau troseddol a chamymddwyn difrifol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae gweithiwr gofal cartref o Ynys Môn wedi cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad penderfynu bod ei haddasrwydd i ymarfer wedi’i amharu ar hyn o bryd oherwydd euogfarnau troseddol a chamymddwyn difrifol.

Arestiwyd Lilian Wyn Binyon ym mis Tachwedd 2019, mis Ionawr 2020 a mis Ebrill 2020 am yrru dan ddylanwad cocên.

Wedi hynny, plediodd yn euog i’r ddwy drosedd gyntaf yn Llys Ynadon Gogledd-orllewin Cymru ym mis Gorffennaf 2020 ac i’r drydedd drosedd yn Llys Ynadon Caernarfon ym mis Medi 2020.

Dywedwyd wrth y gwrandawiad bod Ms Binyon yn gwisgo ei gwisg Carelink ac yn torri rheoliadau’r coronafeirws pan gafodd ei harestio am y trydydd tro ar 19 Ebrill, gan ei bod yn teithio y tu allan i’w hardal leol heb esgus rhesymol.

Nid oedd Ms Binyon yn gweithio ar y diwrnod pan gafodd ei harestio a dywedwyd wrth y gwrandawiad er nad oedd Ms Binyon wedi dweud wrth yr heddlu ei bod yn gweithio y diwrnod hwnnw, yr unig reswm pam yr oedd yn gwisgo’r wisg oedd er mwyn rhoi’r camargraff ei bod yn teithio ar gyfer gwaith.

Ar ôl clywed y dystiolaeth, penderfynodd y panel fod addasrwydd Ms Binyon i ymarfer wedi’i amharu ar hyn o bryd oherwydd ei heuogfarnau troseddol a’i chamymddwyn difrifol.

Wrth esbonio ei benderfyniad, dywedodd y panel: “Dangosodd ymddygiad Ms Binyon ddiffyg uniondeb ac fe allai danseilio ffydd y cyhoedd mewn gofal cartref.

“Rydym wedi penderfynu y gallai achosi risg i unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau a bod ei hanonestrwydd a’i throseddu difrifol ailadroddus yn gyfystyr â thorri gwerthoedd craidd gofal cymdeithasol.”

Aeth y panel ymlaen i ddweud: “Nid yw’r wybodaeth gyfyngedig y mae [Ms Binyon] wedi’i darparu i Ofal Cymdeithasol Cymru yn awgrymu ei bod hi’n debygol o deimlo cymhelliad i unioni’r sefyllfa. Nid yw wedi mynegi unrhyw edifeirwch na dirnadaeth.

“Mewn gwirionedd, roedd ei llythyr a ysgrifennwyd â llaw [at Ofal Cymdeithasol Cymru ym mis Mawrth 2020] yn ymgais i osgoi cyfrifoldeb… Awgrymodd mai anffawd yn unig oedd y ffaith ei bod hi wedi cael ei harestio ddwywaith am droseddau gyrru dan ddylanwad cyffuriau.”

Penderfynodd y panel dynnu Ms Binyon oddi ar y Gofrestr, gan ddweud: “Mae’r amhariad yn ddigon difrifol i gyfiawnhau dileu o’r Gofrestr, ac ni fydd cam llai na hynny’n diogelu defnyddwyr gofal cartref yn briodol nac yn cynnal ffydd y cyhoedd.”

Nid oedd Ms Binyon yn bresennol ar gyfer y gwrandawiad undydd, a gynhaliwyd o bell dros Zoom yn gynharach yr wythnos hon.