CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Tynnu gweithiwr gofal cartref oddi ar y Gofrestr oherwydd camymddwyn difrifol
Newyddion

Tynnu gweithiwr gofal cartref oddi ar y Gofrestr oherwydd camymddwyn difrifol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae gweithiwr gofal cartref o Gasnewydd wedi cael ei thynnu oddi ar y Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad Gofal Cymdeithasol Cymru ganfod bod ei haddasrwydd i ymarfer wedi amharu ar hyn o bryd oherwydd camymddwyn difrifol.

Dywedwyd wrth y gwrandawiad bod Natalie Bidgood wedi dwyn meddyginiaeth a roddwyd ar bresgripsiwn ym mis Mehefin 2020, sef Zapain, o gartref person agored i niwed a oedd yn ei gofal ac yna roedd wedi dweud celwydd am y peth wrth ei chyflogwr.

Dywedwyd wrth y gwrandawiad bod Ms Bidgood wedi dweud wrth ei chydweithiwr yn ystod ymweliad gofal cartref ar 12 Mehefin ei bod yn cymryd yr Zapain o gartref y sawl a oedd yn derbyn gofal a chymorth.

Roedd cydweithiwr arall wedi canfod bod y Zapain ar goll yn ystod archwiliad meddyginiaeth ar 16 Mehefin ac ychydig oriau’n ddiweddarach, gwelwyd Ms Bidgood ger cartref y person agored i niwed pan nad oedd ganddi unrhyw reswm dros fod yno. Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, daeth cydweithiwr arall i’r casgliad bod y Zapain wedi ailymddangos yn y cwpwrdd meddyginiaeth.

Ar ôl ystyried y dystiolaeth, daeth y panel i’r casgliad bod Ms Bidgood wedi ymddwyn mewn ffordd anonest a heb uniondeb, a bod ei haddarswydd i ymarfer wedi amharu ar hyn o bryd oherwydd camymddwyn difrifol.

Eglurodd y panel ei benderfyniad drwy ddweud: “Roedd Ms Bidgood wedi cymryd y feddyginiaeth a roddwyd ar bresgripsiwn oddi ar [y sawl a oedd yn derbyn gofal a chymorth], am resymau hunanol yn ein tyb ni...

“Effaith gwneud hynny oedd amddifadu [y person] o’u meddyginiaeth. Meddyginiaeth yr oedd gweithiwr meddygol proffesiynol wedi asesu a oedd yn angenrheidiol i’r unigolyn.”

Ychwanegodd y panel: “Nid oes unrhyw dystiolaeth o ddirnadaeth ger ein bron, a nid oes unrhyw dystiolaeth bod Ms Bidgood yn cymryd unrhyw gamau adferol wedi iddi dorri’r Cod [Ymarfer Proffesiynol].

“O ganlyniad, nid oes gennym ddim o’n blaenau i’n perswadio na fyddai’r ymddygiad hwn yn cael ei ailadrodd yn y dyfodol.”

Ychwanegodd y panel: “Mae diffyg dirnadaeth Ms Bidgood yn creu risg ar hyn o bryd i ddefnyddwyr gofal a chymorth. Yn ein barn ni mae hyn yn gwaethygu materion gan ei fod yn dangos diffyg dirnadaeth o effaith bosibl ei hymddygiad ar ddefnyddwyr agored i niwed sy’n cael gofal a chymorth.

“Wrth edrych ymlaen, mae hynny’n destun pryder mawr oherwydd mae Ms Bidgood, yn ein barn ni, yn peri risg debyg i unigolion agored i niwed y gallai weithio gyda nhw yn y dyfodol (ac y byddai ganddi ddyletswydd gofal tuag atynt).”

Penderfynodd y panel dynnu enw Ms Bidgood oddi ar y Gofrestr, gan ddweud: “Nid ydym yn credu y byddai unrhyw ymateb llai difrifol yn diogelu’r cyhoedd, o ystyried y diffyg dirnadaeth ac adferiad yr ydym eisoes wedi cyfeirio ato, yr anonestrwydd yr ydym wedi’i ganfod a’r risg o ailadrodd yr ydym wedi’i chanfod.”

Nid oedd Ms Bidgood yn bresennol yn y gwrandawiad pedwar diwrnod, a gynhaliwyd dros Zoom wythnos diwethaf.