CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Tynnu gweithiwr cymdeithasol o’r Gofrestr oherwydd perfformiad gwael a chamymddygiad difrifol
Newyddion

Tynnu gweithiwr cymdeithasol o’r Gofrestr oherwydd perfformiad gwael a chamymddygiad difrifol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae gweithiwr cymdeithasol o Wrecsam wedi’i thynnu o’r Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad canfod bod amhariad ar ei haddasrwydd i ymarfer ar hyn o bryd, oherwydd perfformiad gwael a chamymddygiad difrifol.

Roedd Emma Lennard yn gweithio i asiantaeth maethu pan gafodd ei chyhuddo o fethu cyrraedd lefel y perfformiad a oedd yn ofynnol yn ei rôl rhwng mis Mawrth 2018 a mis Mehefin 2018, trwy fethu cofnodi ei gwaith yn gywir a methu cyfathrebu’n agored gyda rheolwyr.

Ar ôl cael ei diswyddo o’i rôl, clywodd y gwrandawiad fod Ms Lennard wedi’i chyflogi gan asiantaeth mabwysiadu rhwng mis Gorffennaf 2018 a mis Chwefror 2019 ac, yno, roedd wedi methu cwblhau a chyflwyno nifer o adroddiadau erbyn eu dyddiad cyflwyno.

Dywedwyd wrth y panel fod Ms Lennard hefyd wedi methu dilyn rheolau diogelu data yn gywir a’i bod wedi dweud celwydd wrth ei rheolwyr am hynny. Hefyd, methodd ddweud wrth ei chyflogwr ei bod wedi’i chyfeirio atom ni ar gyfer ymchwiliad, ar ôl cael ei diswyddo gan yr asiantaeth maethu.

Wrth ymddangos gerbron y panel, cyfaddefodd Ms Lennard rai o’r ffeithiau a derbyn y dylai fod wedi ymddwyn yn wahanol.

Ar ôl ystyried y dystiolaeth, penderfynodd y panel fod y cyhuddiadau wedi’u profi, gan ddod i’r casgliad bod Ms Lennard wedi ymddwyn mewn ffordd anonest, gyda diffyg uniondeb a’i bod wedi methu cyrraedd y safonau yn y 'Côd Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol'.

Felly, penderfynodd y panel fod amhariad ar hyn o bryd ar addasrwydd Ms Lennard i ymarfer oherwydd perfformiad diffygiol a chamymddygiad difrifol.

Meddai’r panel, wrth esbonio’i benderfyniad: “Rydym wedi canfod fod ymddygiad Ms Lennard yn rhan o batrwm o ymarfer amhriodol. Nid yw’n ddigwyddiad unigol ac nid ydym yn hyderus na fydd yn digwydd eto.

“Mae Ms Lennard yn cyfaddef ei hun yn y dystiolaeth nad yw’n hyderus y gall gadw i fyny â disgwyliadau’r rôl, sy’n rhy uchel, ac mae posibilrwydd y gall yr un peth ddigwydd eto.”

Aeth y panel ymlaen i ddweud: “Yng ngoleuni ein canfyddiad fod Ms Lennard yn anonest, nid ydym o’r farn y gellir dibynnu ar ei huniondeb a, thrwy fod yn anonest, mae hi wedi mynd yn groes i un o ddaliadau sylfaenol y proffesiwn gofal cymdeithasol.

“Hefyd, ystyriwn y byddai peidio â chanfod nam yn tanseilio hyder y cyhoedd yn y proffesiwn gofal cymdeithasol.”

Penderfynodd y panel dynnu enw Ms Lennard o’r Gofrestr, gan ddweud: “Rydym o’r farn bod ymddygiad Ms Lennard yn anghydnaws yn y bôn â bod yn berson cofrestredig, gan felly gyfiawnhau cyflwyno Gorchymyn Dileu.”

Cynhaliwyd y gwrandawiad tridiau o bell dros Zoom, rhwng 14 ac 16 Rhagfyr 2020.