CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Rydyn ni nawr yn derbyn ceisiadau ac enwebiadau ar gyfer Gwobrau 2024
Newyddion

Rydyn ni nawr yn derbyn ceisiadau ac enwebiadau ar gyfer Gwobrau 2024

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Ydych chi’n darparu gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol, gofal plant, chwarae neu’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru, ac eisiau rhannu eich llwyddiannau ag eraill?

Neu, ydych chi’n adnabod rhywun sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli yn y sectorau hyn, ac sy’n haeddu cael ei gydnabod am y gwaith gwych maen nhw’n ei wneud? Os felly, rydyn ni eisiau clywed gennych chi!

Rydyn ni nawr yn croesawu ceisiadau ac enwebiadau ar gyfer Gwobrau 2024, y gwobrau blynyddol sy’n cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu’r gwaith arbennig sy’n cael ei wneud ym maes gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

Felly, os ydych chi’n dîm, yn grŵp, neu’n fudiad yn y sector cyhoeddus, y sector preifat, y sector gwirfoddol neu’r sector cydweithredol yng Nghymru, rhowch wybod i ni am eich llwyddiannau i gael y cyfle i ennill gwobr nodedig.

Rydyn ni hefyd yn awyddus i ddathlu’r rhai sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli ym maes gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol, neu ofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru, ac sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl drwy’r gofal a’r cymorth maen nhw’n eu darparu.

Rydyn ni’n gofyn i gydweithwyr, cyflogwyr, pobl sy’n derbyn gofal a chymorth neu eu gofalwyr, eu teulu a’u ffrindiau enwebu unrhyw weithwyr neu wirfoddolwyr yr hoffent iddynt gael eu cydnabod gyda Gwobr.

Mae chwe chategori ar gael eleni – tri ar gyfer timau, prosiectau a sefydliadau, a tri ar gyfer gweithwyr a gwirfoddolwyr.

Dyma’r categorïau ar gyfer grwpiau, prosiectau a sefydliadau:

  • Adeiladu dyfodol disglair i blant a theuluoedd
  • Gofalu am a gwella llesiant y gweithlu
  • Gweithio mewn partneriaeth.

Dyma’r categorïau ar gyfer gweithwyr a gwirfoddolwyr:

  • Gwobr arweinyddiaeth effeithiol
  • Gwobr Gofalwn Cymru
  • Gweithio yn unol ag egwyddorion ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau.

Dywedodd Sue Evans, ein Prif Weithredwr: “Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn eithriadol o anodd i bawb sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol, gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

“Dyna pam, nawr yn fwy nag erioed, mae’n hanfodol ein bod ni’n cymryd yr amser hwn i gydnabod, dathlu a rhannu’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud yn y sectorau.

“Hoffem ni gael cynifer o geisiadau ac enwebiadau â phosib ar gyfer y gwobrau eleni, a hynny er mwyn ein helpu ni i rannu’r enghreifftiau cadarnhaol hynny o wasanaethau ac unigolion sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl yng Nghymru.

“Felly, os ydych chi’n dîm, yn brosiect neu’n sefydliad sy’n darparu gofal a chymorth rhagorol, byddwn yn eich annog chi i gymryd rhan yn y Gwobrau eleni er mwyn i ni allu cydnabod eich llwyddiannau.

“Neu, os ydych chi’n gwybod am rywun sy’n gwneud bywydau pobl eraill yn well drwy’r gofal a’r cymorth maen nhw’n eu darparu, beth am eu henwebu ar gyfer un o’n gwobrau ar gyfer gweithwyr a gwirfoddolwyr?”

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau ac enwebiadau yw 5pm, 3 Tachwedd 2023.