CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Cyhoeddi’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol y Gwobrau 2022
Newyddion

Cyhoeddi’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol y Gwobrau 2022

| Sue Evans, ein Prif Weithredwr

Ar ôl yr holl heriau anodd mae’r sector gofal wedi’u hwynebu yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, rydym yn falch o ddweud bod y Gwobrau nodedig yn dychwelyd y mis nesaf.

Mae’r Gwobrau wedi cydnabod, dathlu a rhannu arferion rhagorol ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru ers 2005. Er bod digwyddiad gwobrau rhithiol wedi’i gynnal ddiwedd 2020, dyma fydd y tro cyntaf i ni gael seremoni wyneb yn wyneb ers 2018.

Cyn penderfynu ailgyflwyno’r gwobrau, buom yn ystyried y mater yn ddwys yma yn Gofal Cymdeithasol Cymru, gan fod y sector gofal yn dal i frwydro’n galed yn erbyn effeithiau Covid. Ond mae’r ymateb wedi bod yn anhygoel. Mae’n sicr yn dangos, er gwaethaf popeth, fod y rhai sy’n gweithio yn y sector yn dal yn awyddus i ddathlu a rhannu eu llwyddiannau.

Gyda chymorth cynrychiolwyr o sefydliadau eraill o’r sector gofal, rydym wedi gallu barnu ceisiadau ar draws saith categori. Mae pump ar gyfer prosiectau ac mae dau ar gyfer unigolion, gan gynnwys categori ar gyfer y rhai sy’n gofalu am eraill drwy gyfrwng y Gymraeg.

O ganlyniad, mae gennym bellach 14 o brosiectau a 10 o weithwyr gofal sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol. Bydd pob un ohonynt yn cael gwybod a ydynt wedi ennill mewn seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd ar 21 Ebrill.

Mae’r rheini sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn cynnwys prosiect arloesol i helpu pobl ifanc sy’n gadael gofal i gael gwaith, prosiect sy’n cefnogi’r gymuned LGBTQ+ ifanc a dirprwy reolwr cartref gofal sydd wedi dysgu Cymraeg i gefnogi pobl sydd â dementia ac anghenion cymhleth.

Rydym yn falch iawn o gael grŵp mor gryf yn y rownd derfynol sy’n dangos y gwaith anhygoel sy’n cael ei wneud ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar ledled Cymru.

Mae’r sector yn dal i wynebu heriau o ran diwallu anghenion pobl sy’n dibynnu ar y sector i’w helpu i ffynnu. O ganlyniad, mae mor bwysig ein bod yn rhoi o’n hamser i gydnabod a dathlu’r gofal a’r cymorth rhagorol sy’n cael ei ddarparu bob dydd ym mhob cymuned yng Nghymru.

Dyma restr o’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol:

  • Adran gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
  • Cyngor Sir y Fflint
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
  • Village Support Services, Pontllan-fraith
  • Adran gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
  • Gwasanaethau plant Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
  • St Aubin Nurseries Ltd yn y Rhath, Caerdydd
  • GISDA, Caernarfon
  • Rhaglen Trawsnewid Anabledd Dysgu Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd
  • Adran gofal cymdeithasol a thai Cyngor Sir Penfro
  • Hosbis y Cymoedd ym Mlaenau Gwent
  • Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro
  • Cyngor Bro Morgannwg.
  • Seren Support Services yng Nghastell-nedd Port Talbot a Phowys

Gwobr Gofalu trwy’r Gymraeg

Alaw Pearce, Rheolwr Gwasanaeth, Cyngor Sir Ddinbych

Angharad White, Rheolwr Cartref Gofal i Oedolion, Rhondda Cynon Taf

Catherine Roberts, Rheolwr Cynorthwyol yng nghartref gofal Cysgod y Gaer, Sir Ddinbych

Keneuoe Morgan, Dirprwy Reolwr yng Nghartref Preswyl Hafod Mawddach, Abermo, Gwynedd

Rachael Roberts, Swyddog Dementia Actif yn Dementia Actif, Gwynedd.

Gwobr Gofalwn Cymru

Becci Bennett, Rheolwr Clwb y Ddraig, Caerffili

Gwen Vaughan, Cadeirydd Oak Hill Austism Spectrum Disorder (ASD) Childcare, Casnewydd

Keri Llewellyn, Rheolwr All Care (South Wales) Ltd, Bro Morgannwg

Llinos Druce, Gweithiwr Cymdeithasol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Sheila Mullins, Cynorthwyydd Gofalu yng Nghartref Gofal Dolwen, Dinbych


Darganfod mwy am y rhai sydd wedi cyrraedd rownd derfynol y Gwobrau