CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Pam mae llesiant ein gweithwyr gofal mor bwysig
Newyddion

Pam mae llesiant ein gweithwyr gofal mor bwysig

| Sue Evans, ein Prif Weithredwr

Yn fy ngholofnau nesaf, byddaf yn canolbwyntio ar yr hyn rydyn ni'n bwriadu ei gyflawni drwy’r cynllun pum mlynedd sydd newydd ei lansio ar gyfer Gofal Cymdeithasol Cymru. Gallwch ddarllen y cynllun ar ein gwefan.

Y pwnc cyntaf dan sylw yw llesiant y rhai sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Pam mai hwn yw'r pwnc pwysicaf, o'm safbwynt i?

Mae mwy a mwy o dystiolaeth sy'n cysylltu llesiant, galluogrwydd a chymhelliant y gweithlu gofal â chanlyniadau gwell i'r plant, y bobl ifanc a'r oedolion y maen nhw’n eu grymuso ac yn darparu cymorth iddyn nhw.

Yn sgil y pandemig, mae materion iechyd a llesiant y gweithlu gofal wedi codi i'r brig. Mae hyn wedi digwydd oherwydd bod llawer o'r rhai sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar a gofal plant yn dal i deimlo effeithiau'r profiadau affwysol y maen nhw wedi bod drwyddyn nhw ers dechrau'r pandemig.

Ar ben hyn, gwyddom fod prinder dybryd o bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar a gofal plant, sy'n rhoi mwy fyth o bwysau ar y rhai sy'n cael eu cyflogi ar hyn o bryd. I'r rhai sydd â diddordeb mewn gweithio ym maes gofal, mae ystod wych o rolau ar gael ar ein porth swyddi ar wefan gofalwn.cymru.

Er taw'r gweithlu yw ein hased mwyaf gwerthfawr o ran darparu gofal a chymorth o'r radd flaenaf, mae adborth gan weithwyr yn awgrymu nad ydyn nhw'n teimlo eu bod nhw'n cael hanner digon o gymorth na gwerthfawrogiad. Dyw hyn ddim yn beth da o ran eu hymdeimlad o lesiant chwaith.

Byddai'n fanteisiol pe bai gweithwyr gofal yn clywed mwy o sylwadau fel rhai Dr Giles P Croft, cyn-lawfeddyg gyda’r GIG sydd bellach yn anogwr a hyfforddwr, sydd wedi'n helpu ni i gefnogi rheolwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol.

Mae Dr Croft wedi siarad yn uniongyrchol â'r rhai a gafodd gefnogaeth ganddo, trwy ddweud: “Mae pob un ohonoch chi’n cyflawni rôl hollbwysig, mae pob un ohonoch chi’n gweithio'n eithriadol o galed dan amodau anodd ac rwy'n credu bod pob un ohonoch chi’n gwneud gwaith ardderchog. Felly diolch!

“Does dim grŵp arall o bobl, heddiw, yn y DU y byddai'n well gennyf eu cefnogi fel hyn. Rydych chi'n haeddu llawer mwy o gydnabyddiaeth na'r hyn a gewch ar hyn o bryd, ac os yw o unrhyw gysur i chi, fel rhywun sydd wedi ymuno â'r byd hwn o'r tu fas, er mwyn helpu, hoffwn ddweud diolch o waelod calon am bopeth rydych chi'n ei wneud.”

Felly, gan fod llesiant y gweithlu gofal mor bwysig, beth rydyn ni'n mynd i'w wneud dros y pum mlynedd nesaf i helpu gyda hynny?

I'r gweithlu, byddwn yn darparu cymorth, fel cyrsiau Dr Croft, i gynnal a gwella eu llesiant. Mae rhan o'r pecyn hwn yn cynnwys rhaglen gymorth sydd wedi'i chynllunio i roi cymorth emosiynol i bob gweithiwr gofal fel bo'r angen.

Hefyd, rydyn ni'n bwriadu cynnal ymchwil i ddeall mwy am yr heriau sy'n wynebu gweithwyr, a'r ffordd orau o'u helpu.

Byddwn yn darparu adnoddau a chymorth seiliedig ar dystiolaeth i gyflogwyr er mwyn eu helpu i wella llesiant y gweithlu.

I arweinwyr y proffesiwn gofal, byddwn yn darparu arweiniad a chydlyniant i'w helpu i gydweithio â phartneriaid, rhannu ymarfer da a blaenoriaethu mentrau a fydd yn gwella llesiant y gweithlu.

Bydd ymchwil a data yn bwysig hefyd er mwyn dysgu am y ffordd orau o lywio penderfyniadau a pholisïau cenedlaethol sy'n effeithio ar lesiant y gweithlu.

Bydd gwybodaeth o'r fath hefyd yn bwysig i'n helpu i wybod a yw ein gwaith yn gwneud gwahaniaeth, fel y gallwn addasu ein dull i sicrhau ei fod yn parhau'n berthnasol ac yn cael yr effaith a ddymunwn.