CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Mae angen i bob un ohonom ofalu am ein gilydd
Newyddion

Mae angen i bob un ohonom ofalu am ein gilydd

| Sue Evans, ein Prif Weithredwr

Gyda’r heriau a’r ansicrwydd parhaus a achosir gan y pandemig, mae’n debygol bod pob un ohonom yn teimlo ychydig yn fwy bregus nag arfer.

Mae tua 22 mis wedi mynd heibio ers dechrau’r pandemig, ac rwy’n siŵr ein bod ni i gyd yn gobeithio y bydd y Nadolig hwn ychydig yn fwy tebyg i’r rhai roedden ni wedi arfer â nhw cyn y cyfnodau clo a chyfyngiadau eraill Covid.

Ar wahân i’r effaith ddinistriol y mae Covid wedi’i chael o ran salwch a marwolaeth, mae’r pandemig hefyd wedi arwain at ganlyniadau niweidiol eraill.

Un o’r rhain fu cynnydd mewn trais a cham-drin domestig. Yn ystod y cyfnod clo yng Nghymru bu cynnydd o 49 y cant yn nifer y galwadau i’r llinell gymorth genedlaethol, Byw Heb Ofn (080808 80 10 800).

Mae arolygon y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi dangos bod lefelau unigrwydd ledled Prydain Fawr wedi cynyddu ers gwanwyn 2020.

Yng Nghymru, roedd canran y bobl a ddywedodd eu bod yn teimlo’n unig yn aml neu bob amser yn amrywio o 8.5 y cant yn Rhondda Cynon Taf i 14.3 y cant yng Nghaerffili.

Mae adroddiad newydd gan y Sefydliad Polisi Arian ac Iechyd Meddwl hefyd wedi datgelu maint yr anawsterau ariannol y mae pobl â phroblemau iechyd meddwl wedi’u hwynebu yn ystod y pandemig.

Roedd yr heriau a wynebir fel arfer gan bobl â phroblemau iechyd meddwl yn cael eu dwysau gan golli incwm a chyflogaeth ac iechyd gwael. Roedd y ffactorau hyn yn cyfrannu at bobl â phroblemau iechyd meddwl yn wynebu risg llawer mwy o galedi ariannol yn ystod y pandemig na’r boblogaeth ehangach.

Dim ond rhai enghreifftiau o effeithiau niweidiol y pandemig yw’r rhain. Mae hyn yn ei gwneud yn bwysicach nag erioed ein bod ni’n ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd o’n cwmpas, gyda chymdogion, teulu a ffrindiau, ac yn sylwi ar arwyddion o ba bryd y gallai fod angen ein cymorth arnynt.

Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n ddiweddar gyda Bwrdd Gweithdrefnau Diogelu Cymru ac eraill o asiantaethau statudol a thrydydd sector i ddatblygu adnoddau ar-lein i helpu pawb i adnabod arwyddion o gam-drin, niwed neu esgeuluso plant neu oedolion.

Mae’r pecyn e-ddysgu dwyieithog yn rhoi dealltwriaeth ymarferol i bobl o sut i gadw plant ac oedolion sy’n agored i niwed yn ddiogel.

Er ei fod wedi’i anelu’n bennaf at y rheini sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol, mae hefyd yn berthnasol i’r rheini sy’n chwilio am swyddi mewn gofal a’r rheini a allai fod â diddordeb mewn dysgu mwy am y pwnc pwysig hwn.

Beth bynnag a wnawn a ble bynnag yr ydym yn byw, mae gan bob un ohonom ddyletswydd i adnabod arwyddion o gam-drin, niwed neu esgeulustod ac i gymryd camau i amddiffyn plant neu oedolion a allai fod yn agored i niwed ac mewn perygl.

Mae hyn yn golygu mwy na dim ond cwblhau cwrs neu ddarllen adnoddau ar-lein. Mae’n ymwneud â gallu cefnogi a diogelu’r bobl fwyaf agored i niwed o’n cwmpas.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cwrs ar-lein hwn a sut mae cael mynediad ato yma.

Gobeithio y byddwn ni i gyd yn dod yn fwy ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd o’n cwmpas ac yn gwybod beth allwn ni ei wneud i’r rheini sydd angen ein cymorth. Gallwn i gyd helpu pobl i deimlo’n llai bregus y Nadolig hwn.