CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Lansio adnodd newydd i Unigolion Cyfrifol
Newyddion

Lansio adnodd newydd i Unigolion Cyfrifol

| SCW Online

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi datblygu adnodd gwybodaeth a dysgu i helpu Unigolion Cyfrifol i gyflawni eu dyletswyddau newydd o dan y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

Un o brif newidiadau yn y Ddeddf ydy o Ebrill 2017 rhaid i ddarparwyr gofal a chymorth enwi ‘Unigolyn Cyfrifol’ wrth gofrestru eu gwasanaeth. Gallai hyn fod yn berchennog, partner, aelod bwrdd neu uwch swyddog awdurdod lleol.

Mae gan yr Unigolion Cyfrifol ran bwysig wrth reoli’r gwasanaeth, ei adnoddau ac ansawdd y gfal a chymorth y darperir ganddo.

Rôl ehangach yr Unigolyn Cyfrifol ydy rhoi cyswllt atebolrwydd clir rhwng yr ystafell bwrdd ac ymarfer rheng flaen. Mae Unigolion Cyfrifol hefyd yn atebol am greu diwylliant lle y gellir mesur effaith y gwasanaeth yn erbyn llesiant yr unigolyn sy’n ei ddefnyddio.

Bydd yr adnodd gwybodaeth a dysgu’n helpu Unigolion Cyfrifol i ddeall y gofynion newydd. Bydd hefyd o ddiddordeb i ddarparwyr gwasanaethau a rheolwyr.

Datblygwyd yr adnodd mewn partneriaeth ag Arolygiaeth Gofal Cymru gyda mewnbwn gan Unigolion Cyfrifol.

Adnodd Gwybodaeth a Dysgu ar gyfer Unigolion Cyfrifol