CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru i dderbyn cerdyn i brofi eu bod yn weithwyr allweddol
Newyddion

Gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru i dderbyn cerdyn i brofi eu bod yn weithwyr allweddol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae cerdyn yn cael ei anfon at bob gweithiwr gofal cymdeithasol yng Nghymru i'w helpu o bosibl i gael y buddion sydd ar gael i weithwyr allweddol yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19).

Mae'r cerdyn wedi cael ei gynhyrchu mewn ymateb i adroddiadau gan weithwyr gofal cymdeithasol ar y rheng flaen, sy’n dweud y gall fod yn anodd iddynt brofi eu bod yn weithwyr allweddol.

Mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn hanfodol i gefnogi unigolion sy’n agored i niwed ym mhob cymuned yng Nghymru, ac i helpu i leddfu pwysau ar y GIG. Er hynny, maen nhw’n dweud na allant wastad brynu bwyd yn hawdd ar gyfer yr unigolion maent yn eu cefnogi neu iddyn nhw eu hunain a’u teuluoedd.

Mae'r cerdyn gweithiwr gofal cymdeithasol yn cael ei anfon o ddydd Mercher, 15 Ebrill, i'r rhai sydd ar y Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol, a reolir gennym ni. Bydd hefyd ar gael i'r rhai nad ydynt wedi cofrestru ar hyn o bryd trwy eu rheolwyr cofrestredig, penaethiaid gwasanaeth ac uwch rheolwyr.

Er mwyn helpu gweithwyr gofal cymdeithasol i elwa o bosibl o’r cerdyn cyn gynted ag y bo modd, mae'n cael ei roi iddynt mewn dau fformat – yn ddigidol a chopi caled.

Dywedodd Sue Evans, ein Prif Weithredwr: “Mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn chwarae rôl hanfodol wrth ofalu am oedolion a phlant yn ein cymunedau, gan gynnwys ein pobl fwyaf agored i niwed, yn ystod yr argyfwng digynsail hwn. Maent yn cynorthwyo pobl i aros yn ddiogel ac yn iach yn y gymuned, ac felly'n helpu i leddfu pwysau ar gydweithwyr yn y gwasanaeth iechyd sy'n trin pobl â symptomau llym COVID-19 yn ein hysbytai.

“Mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn gwneud aberth tebyg i'r rhai sy'n gweithio mewn ysbytai drwy weithio oriau hir a shifftiau, sy'n rhoi prinder o amser iddynt siopa am fwyd a nwyddau angenrheidiol.

“Mae gweithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol yn fedrus iawn wrth gefnogi unigolion, ac eto mae llawer ohonynt ar gyflog cymharol isel. Fe allai'r gallu i fanteisio ar gynigion buddiol gael effaith sylweddol arnynt yn ystod y pandemig hwn. Gallai rhoi mynediad ffafriol i nwyddau a gwasanaethau hefyd fod â budd llawer ehangach, gan eu bod yn aml yn siopa i sawl unigolyn sy'n agored i niwed neu ar gyfer gwasanaeth gofal cyfan, yn hytrach nag iddynt eu hunain.”

Ychwanegodd Sue: “Gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill, rydym yn cysylltu â'r heddlu, manwerthwyr a darparwyr trafnidiaeth i'w hannog i gydnabod y cerdyn hwn. Gobeithio y bydd yn ei gwneud yn haws i weithwyr gofal cymdeithasol siopa pan fydd angen iddynt wneud hynny, siopa ar ran y bobl y maent yn eu cefnogi heb gael eu cwestiynu, a symud yn ddirwystr rhwng eu cartref a'u gweithle. Byddai hyn yn caniatáu iddynt ganolbwyntio cymaint ag sy'n bosibl ar ddarparu gofal rhagorol yn ystod y cyfnod ansicr hwn.

“Rwyf felly yn annog manwerthwyr a sefydliadau eraill i ddangos eu gwerthfawrogiad o'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru, am eu hymroddiad wrth gadw'r rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ddiogel, drwy gydnabod y cerdyn hwn yn ffurfiol a rhoi'r un manteision iddynt â gweithwyr allweddol eraill.”

Mwy o wybodaeth am y cerdyn gweithwyr allweddol ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol.