CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Gofalwyr a phobl sy’n derbyn gofal a chefnogaeth yng Nghymru’n rhannu’u profiadau mewn adroddiad newydd
Newyddion

Gofalwyr a phobl sy’n derbyn gofal a chefnogaeth yng Nghymru’n rhannu’u profiadau mewn adroddiad newydd

| SCW Online

Mae Mesur y Mynydd (MyM), menter unigryw a fu wrthi’n casglu profiadau pobl o ofal cymdeithasol ledled Cymru, wedi rhannu eu canfyddiadau heddiw (dydd Mercher 27 Mawrth).

Dyma’r adroddiad cyntaf o’i fath, a bydd yn taflu goleuni ar sut mae gofal cymdeithasol yn teimlo go iawn i ofalwyr a phobl sy’n derbyn gofal a chefnogaeth.

Mewn prosiect a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, casglodd MyM bron i 500 o straeon personol o bob cwr o Gymru ynglŷn â gofal cymdeithasol, sy’n datgelu’r berthynas gymhleth, fregus a phwysig sydd gan bobl pan fyddan nhw’n ofalwyr neu angen gofal a chefnogaeth.

Archwiliwyd rhai o’r themâu allweddol a gododd o’r straeon gan Reithgor Dinasyddion, a gynhaliwyd gan MyM ym mis Medi 2018, er mwyn deall mwy am effaith gynnar Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Cynhyrchwyd pymtheg o argymhellion, sy’n dangos yn glir fod angen ymwneud diffwdan, hwylus â darparwyr gofal cymdeithasol; yr angen i werthfawrogi a chefnogi gofalwyr; a phwysigrwydd gweithredu mewn dulliau cydweithredol ar bob lefel yn y sector.

Ar ddydd Mercher, Mawrth 27, bydd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, yn lansio’r adroddiad yn swyddogol yn Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd. Bydd y digwyddiad, dan ofal MyM, yn croesawu aelodau o’r cyhoedd a sefydliadau a gymerodd ran yn y prosiect i ddod ynghyd.

Meddai’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan “Dyma ddarn pwysig o waith a ddefnyddiodd ddulliau unigryw, nad yw’r fath beth erioed wedi cael ei ymgymryd yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru o’r blaen.

“Mae Mesur y Mynydd wedi bod yn ddull cydweithredol, sydd wedi bod yn hanfodol er mwyn clywed lleisiau’r bobl sy’n ymwneud â’r sector. Rwy’n croesawu’r adroddiad yn fawr iawn, ac mae’n darparu tystiolaeth glir i ni ynghylch ble rydym ni nawr a beth sydd angen ei wneud nesaf.”

Drwy gyfrwng gweithgareddau MyM dros y 12 mis diwethaf, taflwyd goleuni ar elfennau o ofal cymdeithasol sy’n gweithio’n dda, ynghyd ag ardaloedd sydd angen gwella, a bydd y canfyddiadau hyn yn helpu i hydreiddio gwerthusiad tair blynedd o hyd o’r Ddeddf sy’n digwydd gan dîm o Brifysgol De Cymru.

Meddai Katie Cooke, Rheolwr Prosiect Mym “Rydym ni wedi canolbwyntio ar brofiadau pobl sy’n defnyddio gofal cymdeithasol, ac er ein bod ni wedi gallu gwneud argymhellion sy’n seiliedig ar yr wybodaeth hon, mae angen archwilio nifer o faterion a themâu nawr o gyfeiriad darparwyr gofal cymdeithasol a’u staff, er mwyn gallu deall, ac ateb, gofidiau o fewn y sector o bob cyfeiriad.”

Bydd hi’n cymryd amser i roi’r Ddeddf ar waith yn llwyddiannus, ac wrth i bwysau gynyddu ar ofal cymdeithasol, bydd deall yn union beth sydd ei angen gan y bobl sy’n ei ddefnyddio yn helpu i sicrhau fod adnoddau’n cael eu canoli yn y mannau gorau.

I gael manylion llawn y canfyddiadau ewch i wefan Mesur y Mynydd.