CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Enwi 14 prosiect yn rownd derfynol gwobrau mawreddog gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar
Newyddion

Enwi 14 prosiect yn rownd derfynol gwobrau mawreddog gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae prosiect arloesol i addysgu gweithwyr cymdeithasol y dyfodol, menter sy’n dod â phlant sy’n derbyn gofal yn ôl i’w hardal leol, a chanolfan ddydd a hyb cymunedol pwrpasol ymhlith y rhai sydd wedi cyrraedd rownd derfynol y Gwobrau mawreddog.

Mae’r gwobrau, a drefnir gennym ni, yn cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu gofal cymdeithasol rhagorol a gofal blynyddoedd cynnar rhagorol yng Nghymru.

Ers eu lansio gyntaf 15 mlynedd yn ôl, mae’r Gwobrau wedi mynd o nerth i nerth, gan ddenu’r nifer uchaf eto o gynigion eleni.

Mae’r Gwobrau ar agor i dimau, prosiectau a sefydliadau yn y sectorau cyhoeddus, gwirfoddol ac annibynnol sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywyd pobl.

Dewiswyd y rhai sydd wedi cyrraedd y brig eleni gan banel o feirniaid – yn eu plith mae ein haelodau Bwrdd, cynrychiolwyr sefydliadau partner, cyn-enillwyr a phobl â phrofiad o ddefnyddio gofal a chymorth.

Cyhoeddir enwau’r enillwyr, a ddewisir hefyd gan banel o feirniaid, mewn seremoni rithwir ddydd Mawrth, 10 Tachwedd 2020.

Meddai Sue Evans, ein Prif Weithredwr: “Rydym wrth ein bodd bod y nifer uchaf erioed o gynigion wedi arwain at grŵp cryf sy’n arddangos y gwaith rhagorol sy’n mynd rhagddo mewn gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

“Afraid dweud y bu’n flwyddyn eithriadol o anodd a heriol eleni i’r sectorau gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar. O ganlyniad, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn treulio amser yn cydnabod a dathlu’r gofal cymdeithasol rhagorol a’r gofal blynyddoedd cynnar rhagorol sy’n cael eu darparu bob dydd ym mhob cymuned yng Nghymru.

“Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol. Edrychaf ymlaen at groesawu pob un ohonoch i’r seremoni wobrwyo rithwir ar 10 Tachwedd, a chydnabod, dathlu a rhannu eich ymdrechion a’ch llwyddiannau chi a’r sector gofal ehangach.”

Categorïau a’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol

Adeiladu dyfodol disglair gyda phlant a theuluoedd

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy – Ar gyfer ei brosiect ‘Model Cymorth i Deuluoedd’, gyda phum tîm yn y gymuned yn cynnig gwahanol lefelau o gymorth i deuluoedd, fel cymorth grŵp ac unigol, a gwybodaeth a chyngor. Hefyd, mae’r prosiect wedi datblygu adnodd dwyieithog i’w ddefnyddio gyda theuluoedd i ddatblygu dealltwriaeth o’r hyn sy’n bwysig iddynt, eu hanghenion a’u blaenoriaethau, cynllun gweithredu a llwybr at gymorth pellach.
  • Gwasanaeth Rhianta Teuluoedd yn Gyntaf y Fro, Bro Morgannwg – Ar gyfer ei brosiect yn cynorthwyo teuluoedd i adeiladu ar eu cryfderau a gwneud newidiadau cadarnhaol, gan helpu rhieni i deimlo’n fwy hyderus i reoli ymddygiad, arferion a ffiniau. Mae’n canolbwyntio ar hybu llesiant emosiynol a chefnogi perthnasoedd teuluol cadarnhaol, ac mae’n elwa o gefnogaeth arbenigol gan fydwragedd, sy’n ategu ac yn ychwanegu at y gwasanaeth rhianta.
  • Gwasanaeth Mentor Rhieni Navigate @ Scope – Ar gyfer ei brosiect yn cynnig cymorth pwrpasol i rieni sydd â phlentyn ar lwybr tuag at gael diagnosis o anabledd neu nam, neu sydd wedi cael diagnosis o fewn y 12 mis diwethaf. Mae’n darparu cymorth emosiynol ac ymarferol teilwredig, i rieni a gofalwyr, sy’n eu helpu i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i’w plentyn.

Datblygu ac ysbrydoli gweithlu yfory

  • Prifysgol Glyndŵr Wrecsam – Ar gyfer ei brosiect ‘Outside In’, sef grŵp ffocws sy’n defnyddio ffyrdd arloesol i addysgu gweithwyr cymdeithasol y dyfodol. Mae ‘Outside In’ yn gwneud yn siŵr bod myfyrwyr gwaith cymdeithasol yn dysgu o brofiad ac arbenigedd unigolion sydd wedi derbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol ac iechyd.
  • Mudiad Meithrin – Ar gyfer ei adran hyfforddi a datblygu, sef ‘Academi’, sy’n cynnig cyfleoedd i staff a gwirfoddolwyr gofal plant, cyfrwng Cymraeg, ddatblygu amrywiaeth o sgiliau a phrofiadau drwy ei raglen hyfforddi genedlaethol. Yn 2018-19, aeth dros 2,100 o bobl i 142 o gyrsiau Academi.
  • Tîm Partneriaeth Rhanbarthol Gwent – Ar gyfer ei brosiect Consortiwm Coleg Gyrfa Gwent, sy’n cynnig ymagwedd ymarferol at heriau recriwtio trwy gynnig dull cyfannol o ategu datblygu, cymhwyso a recriwtio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngwent. Mae’r consortiwm yn gydweithrediad rhwng y coleg addysg bellach lleol, y bwrdd iechyd, awdurdodau lleol, prosiectau cyflogadwyedd rhanbarthol a darparwyr gofal cymdeithasol preifat.

Gwella gofal a chymorth yn y cartref gyda’n gilydd

  • Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint – Ar gyfer eu prosiect yn darparu gweithgareddau ystyrlon yn ystod y dydd i fwy na 250 o bobl ag anableddau dysgu. Mae’r prosiect yn helpu pobl i ddysgu sgiliau newydd, datblygu annibyniaeth a llunio cysylltiadau cymdeithasol a gwneud ffrindiau. Hefyd, mae’n gweithio gyda rhaglen byw â chymorth i helpu’r bobl y mae’n eu cynorthwyo, eu rhieni a’u gofalwyr, i fanteisio ar wasanaethau seibiant buddiol, diogel a di-dor.
  • NEWCIS, gogledd-ddwyrain Cymru – Ar gyfer ei brosiect ‘Pontio’r Bwlch’, sy’n caniatáu i ofalwyr di-dâl fanteisio ar seibiannau hyblyg a dibynadwy. Mae’n caniatáu i ofalwyr gymryd seibiant fel y bo’n addas i’w hanghenion a gall gynorthwyo yn achos angen brys am seibiant.

Ffyrdd arloesol ac ysbrydoledig o weithio

  • Cyngor Dinas Casnewydd – Ar gyfer ei fenter, ‘Project Perthyn’, sydd wedi ymrwymo i agor tri chartref newydd i blant yn ardal yr awdurdod lleol. Nod y prosiect yw dod â phlant yn ôl i Gasnewydd – i’w cartref, eu hysgol a’u teulu – ac mae’n helpu plant i aros yng Nghasnewydd trwy gynnig math gwahanol o brofiad gofal.
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr – Ar gyfer ei brosiect ‘Meddwl am y Baban’, dull arloesol a chreadigol o gynnig ymyrraeth gynnar effeithiol i deuluoedd mewn ymdrech i wella canlyniadau yn y tymor byr, canolig a hir. Mae’r prosiect yn rhoi cymorth cyn ac ar ôl geni i deuluoedd, gyda’r nod o ostwng nifer y plant sy’n derbyn gofal.
  • Cyngor Sir Gâr – Ar gyfer ei brosiect ‘We Can Run’, sy’n amcanu at wella iechyd a llesiant pobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl a hyrwyddo effeithiau cadarnhaol posibl bod yn egnïol ar eu hiechyd meddwl. Mae’r prosiect yn cynnig clwb rhedeg a chyngor ar ffordd o fyw, diet a maeth, ynghyd â gwasanaethau eraill, fel ffisiotherapi a phlatfform cyfathrebu i’w ddefnyddwyr.

Gweithio gyda phobl sy’n byw gyda dementia a gwrando arnynt

  • Cyngor Gwynedd – Ar gyfer ei brosiect ‘Dementia Go’, sef gwasanaeth dwyieithog sy’n amcanu at roi cyfle i bobl â dementia, eu teuluoedd a’u gofalwyr, fod yn egnïol, cael hwyl a bod yn rhan o gymuned. Mae’r dosbarthiadau’n cynnwys ymarferion i wella cryfder, cydbwysedd a chydsymud, i helpu gyda gweithgareddau bob dydd. Mae chwaraeon, fel tenis bwrdd, yn boblogaidd, felly hefyd cerddoriaeth, canu a dawnsio, sy’n gallu helpu i leihau gorbryder ac iselder, a chynyddu hyder, llesiant ac ansawdd bywyd.
  • Canolfan Rainbow Centre, ger Wrecsam – Ar gyfer ei brosiect canolfan ddydd, sef hyb cymunedol pwrpasol sy’n cynnig amrywiaeth o ymyriadau, fel grwpiau ymarfer corff a diddordebau cymdeithasol, allgymorth cymunedol a chyfeillio, ynghyd â chludiant cymunedol a chyfleoedd gwirfoddoli. Nod y prosiect yw hybu heneiddio cadarnhaol a rhoi grym i bobl hŷn fod mor annibynnol â phosibl ac ailgysylltu â’r gymuned leol.
  • Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru – Ar gyfer ei phrosiect yn canolbwyntio ar y ffordd y mae’n ymateb i bobl â dementia. Mae’r prosiect yn datblygu Fframwaith Dysgu a Datblygu i’w staff a’i wirfoddolwyr, atgyfeiriadau mwy effeithiol, amgylcheddau ystyriol o ddementia a phartneriaethau gwell gyda gwasanaethau allweddol. Hefyd, mae’n gwneud yn siŵr bod llais cryf gan bobl sy’n bwy gyda dementia, a’u gofalwyr, yng ngwaith y prosiect ac mewn cynlluniau at y dyfodol.