CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Dywedwch wrthym sut y gallwn eich cefnogi chi i ddefnyddio ymchwil, adnoddau ac arweiniad yn y gwaith
Newyddion

Dywedwch wrthym sut y gallwn eich cefnogi chi i ddefnyddio ymchwil, adnoddau ac arweiniad yn y gwaith

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Hoffem glywed gan y rhai sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a darparwyr i'n helpu i ddeall yn well sut y gallwn eich cefnogi chi i ddefnyddio ymchwil a gwahanol fathau o wybodaeth, adnoddau ac arweiniad yn y gwaith.

Rydym yn edrych i gael dwy sgwrs gyda gweithwyr gofal, rheolwyr cofrestredig, unigolion cyfrifol a chydlynwyr gweithgareddau ynghylch sut y gallwn lunio cefnogaeth i weddu orau i'ch anghenion.

Mae eich adborth yn bwysig i ni, felly byddwn yn eich ad-dalu am amser eich staff os ydych chi'n gyflogwr fel y gall eich gweithwyr gymryd rhan mewn oriau gwaith.

I gymryd rhan neu i gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Kate Howson neu Reb Vincent-Newson yn research@socialcare.wales.