CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Dywedwch wrthym sut mae’r pandemig wedi effeithio ar eich iechyd a’ch llesiant
Newyddion

Dywedwch wrthym sut mae’r pandemig wedi effeithio ar eich iechyd a’ch llesiant

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydyn ni am glywed gan weithwyr cymdeithasol a gweithwyr gofal cymdeithasol am sut mae pandemig Covid-19 wedi effeithio ar eich iechyd a’ch llesiant.

Rhowch wybod i ni am eich bywyd gwaith a sut rydych chi wedi bod yn ymdopi trwy lenwi arolwg byr sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Ulster gyda’n cefnogaeth.

Trwy lenwi’r arolwg, rydych chi’n helpu ymchwilwyr i gael darlun cliriach o’r effaith y mae’r pandemig wedi’i chael ar y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol.

Beth mae’r ymchwil wedi’i ddatgelu hyd yn hyn

Dyma’r chweched arolwg mewn cyfres sydd wedi bod yn edrych ar brofiadau’r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol ar adegau amrywiol ers dechrau’r pandemig.

Mae canlyniadau’r pumed arolwg, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn datgelu bod y gweithlu’n cael trafferth o hyd â’r newidiadau a achoswyd gan y pandemig.

Mae’r arolwg yn dangos er bod mai Cymru sy’n adrodd yr ansawdd bywyd Gwaith uchaf ymhlith gwledydd y DU, mae ansawdd bywyd gwaith a llesiant wedi parhau i ddirywio yn y sector.

Sut i gymryd rhan

Gallwch gymryd rhan yn yr arolwg yma. Ni ddylai gymryd mwy na 15 munud i’w lenwi a bydd eich ymatebion yn gwbl ddienw.

Mae’r arolwg ar agor tan 13 Ionawr.

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Dr Paula McFadden ar p.mcfadden@ulster.ac.uk neu hscworkforcestudy@gmail.com.