CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Dadansoddi anghenion dysgu a datblygu ymchwilwyr gofal cymdeithasol
Newyddion

Dadansoddi anghenion dysgu a datblygu ymchwilwyr gofal cymdeithasol

| SCW Online

Mae tîm hyfforddi a rheolwr gofal cymdeithasol Canolfan Gymorth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi bod yn cydweithio ac maen nhw’n ddiweddar wedi gwahodd pobl sydd â diddordeb mewn ymchwil gofal cymdeithasol i gwblhau dadansoddiad o anghenion hyfforddi ar-lein.

Nod y dadansoddiad o anghenion hyfforddi oedd darganfod beth yw anghenion dysgu a datblygu’r rheini sydd a wnelo ag ymchwil gofal cymdeithasol ledled Cymru. Roedd yna ymateb eang oddi wrth y rheini ym maes ymchwil gofal cymdeithasol, arfer, a dysgu a datblygu, yn ogystal â’r rheini mewn nifer o sectorau eraill.

Mynegwyd diddordeb mewn hyfforddiant ar amrywiaeth o fethodolegau ymchwil, a’r pwnc â’r galw mwyaf amdano oedd ymchwil dulliau cymysg. Awgrymodd yr ymatebwyr hefyd angen am hyfforddiant mewn sut i gynnal ymchwil gyda phobl sydd o bosibl yn methu â chydsynio drostyn nhw eu hunain. Roedd yna ddiddordeb ychwanegol mewn dulliau’n ymwneud â sut i gynnwys pobl sy’n derbyn gwasanaethau mewn ymchwil, yn gyfranogwyr ac yn gyd-ymchwilwyr.

Roedd y galw’n isel am hyfforddiant i’w gyflawni’n gyfan gwbl ar-lein, gyda 30% o’r ymatebwyr o blaid cael darpariaeth hyfforddiant wyneb yn wyneb a 50% o blaid cael cymysgedd o hyfforddiant wyneb yn wyneb ac ar-lein.

Nawr bod y dadansoddiad wedi’i gwblhau, mae’r wybodaeth gan Ganolfan Gymorth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i’w helpu i gynllunio sut i ddiwallu’r anghenion dysgu a datblygu hyn. Maen nhw wrthi’n datblygu strategaeth ar gyfer diwallu’r anghenion hyfforddi hyn ac fe daw newyddion ynglŷn â’r cyfleoedd newydd hyn cyn bo hir.

Cadwch lygad ar wefan Canolfan Gymorth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru