CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Cymerwch ran yn ein gwasanaeth anogaeth am ddim i gefnogi arloesedd yng ngofal cymdeithasol
Newyddion

Cymerwch ran yn ein gwasanaeth anogaeth am ddim i gefnogi arloesedd yng ngofal cymdeithasol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydyn ni wedi lansio gwasanaeth anogaeth arloesedd am ddim i'ch helpu i gael y gorau o'ch syniadau i wella gofal.

Y gwasanaeth hwn yw’r cyntaf o’i fath ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru a bydd yn darparu cymorth uniongyrchol i bobl sy’n datblygu ffyrdd newydd o weithio ar draws y sector.

Anfonwch eich syniadau i wella prosesau, gwasanaethau a chanlyniadau atom, a byddwn yn eich helpu i roi’r syniadau hynny ar waith.

Mae ein tîm o anogwyr arloesedd yma i'ch cefnogi chi i brofi'ch syniadau'n ddiogel a'u helpu i gyrraedd eu botensial llawn.

Pam ddylech chi wneud cais?

  • Mae ein gwasanaeth anogaeth arloesedd ar gael am ddim ac i unrhyw un sy’n gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol yng Nghymru.
  • Byddwch yn cael cymorth ar-lein gan ein tîm o anogwyr arloesedd, sy’n arbenigwyr ar gyflawni newid.
  • Byddwn yn eich helpu i ddatrys problemau a magu hyder i barhau i ddefnyddio eich ffordd newydd o weithio unwaith y bydd yr anogaeth wedi dod i ben.
  • Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn y gwasanaeth anogaeth yn gymwys i ymuno â’n ‘clwb anogaeth’ – rhwydwaith o eraill sydd wedi bod drwy’r un broses.

Sut i wneud cais

Rydyn ni am glywed gan unrhyw un mewn rôl gofal cymdeithasol yng Nghymru sy’n gweithio i arloesi neu wella eu hymarfer i ddarparu gwasanaethau gofal gwell.

Rhowch drosolwg i ni o'ch prosiect neu syniad trwy lenwi ein ffurflen gais, neu anfonwch gais fideo byr i anogaetharloesedd@gofalcymdeithasol.cymru.

O 25 Medi i 6 Hydref, rydyn ni am glywed eich syniadau i wella unrhyw agwedd o ymarfer neu wasanaethau gofal cymdeithasol, ar unrhyw gam datblygu.

Yna byddwn yn cynnal tair ffenestr ymgeisio â ffocws ar gyfer mathau penodol o brosiectau.

  • Ffocws ar recriwtio – O 20 Tachwedd 2023 i 1 Rhagfyr 2023, byddwn yn edrych i gefnogi syniadau a phrosiectau sy'n gwella recriwtio yng ngofal cymdeithasol.
  • ‘Hyfforddi’r hyfforddwr’ – O 29 Ionawr 2024 i 9 Chwefror 2024, byddwn yn chwilio am gyfleoedd i gefnogi pobl sy’n helpu eraill i arloesi.
  • Cefnogi mentrau partneriaid – O 25 Mawrth 2024 i 5 Ebrill 2024, byddwn yn edrych i bartneru â mentrau sydd eisoes yn cefnogi arloesedd yn y sector.

Byddwn yn dal i ystyried prosiectau eraill yn ystod y ffenestri ffocws hyn, felly cysylltwch â ni os oes gennych syniad gwych yr hoffech ei archwilio.

Dilynir pob ffenestr gan gyfnod dethol o bythefnos, gyda'r anogaeth ei hun yn para chwe wythnos i'r rhai a ddewisir i gymryd rhan.

Bydd ein tîm anogaeth hefyd wrth law i helpu gyda'r broses ymgeisio, felly cysylltwch os oes cwestiynau gennych.

Angen mwy o wybodaeth?

Ewch i'n tudalen anogaeth arloesedd neu e-bostiwch angharad.dalton@gofalcymdeithasol.cymru os hoffech wybod mwy.