CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Cyhoeddi enillwyr Gwobrau 2023
Newyddion

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau 2023

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Ymhlith enillwyr y Gwobrau eleni mae gwasanaeth yng Nghasnewydd sy’n darparu seibiannau byr i blant ag anghenion ychwanegol, prosiect sy’n cefnogi gofalwyr ifanc di-dâl ym Mlaenau Gwent, a rheolwr recriwtio o Gastell-nedd Port Talbot.

Mae'r Gwobrau yn cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu gwaith rhagorol ym maes gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru.

Cyflwynwyd gwobrau i bum enillydd yn y seremoni eleni a gynhaliwyd yn Neuadd y Ddinas Caerdydd ddydd Iau, 27 Ebrill.

Cafodd y gwobrau, a noddwyd gan Blake Morgan, Data Cymru, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a Gofalwn Cymru, eu cyflwyno gan y darlledwr adnabyddus Garry Owen a’n Prif Weithredwr Sue Evans.

Roedd mwy na 40 o brosiectau a gweithwyr o bob cwr o Gymru wedi cymryd rhan, neu wedi cael eu henwebu ar gyfer gwobrau 2023. Yna, fe wnaeth panel o feirniaid arbenigol eu cwtogi i restr fer derfynol o naw prosiect a chwe gweithiwr neu dîm.

Roedd y beirniaid yn cynnwys aelodau ein Bwrdd, cynrychiolwyr o sefydliadau ar draws y meysydd gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant, a phobl sydd â phrofiad o ddefnyddio gofal a chymorth.

Dywedodd Mick Giannasi CBE, ein Cadeirydd: “Y Gwobrau yw ein ffordd ni o ddiolch i bawb sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant sy’n darparu gofal gwych i wneud pethau’n well i’r bobl maen nhw’n eu cynorthwyo.

“Mae’r tair blynedd diwethaf wedi bod yn heriol iawn ac yn parhau i fod yn heriol iawn, ond dylem ymfalchïo ym mhawb sy'n gweithio yn y sector ac wedi cefnogi'r rhai maen nhw’n gofalu amdanyn nhw i fyw’r bywydau sy’n bwysig iddyn nhw.

“Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr a’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol, dylech chi fod yn falch iawn o'r hyn rydych chi wedi’i gyflawni. Diolch i chi i gyd am bopeth rydych chi'n ei wneud.”

Ychwanegodd Sue Evans, ein Prif Weithredwr: “Roedd safon y ceisiadau ac enwebiadau ar gyfer gwobrau eleni yn uchel iawn, ac roedd gan y beirniaid dasg anodd o benderfynu ar yr enillwyr gan nad oedd llawer i wahanu rhai o'r bobl a gyrhaeddodd y rownd derfynol.

“Mae wedi bod yn fraint cael arwain seremoni’r Gwobrau a bod ymhlith cymaint o bobl sy’n gwneud byd o wahaniaeth i fywydau pobl yng Nghymru.

“Unwaith eto, mae’r gwobrau eleni wedi dangos cymaint o enghreifftiau gwych o ofal a chymorth rhagorol sydd gennym, a’r gwahaniaeth gwerthfawr a chadarnhaol mae gweithwyr gofal yn ei wneud i fywydau cynifer o bobl.

“Llongyfarchiadau i bob un o’n henillwyr haeddiannol. Rydyn ni’n ffodus iawn o gael cynifer o bobl ymroddedig a gweithgar yn cefnogi ein cymunedau.”