CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Amser i gefnogi’r rhai hynny sydd wedi ein cefnogi ni yn ystod y pandemig – enwebu eich Sêr Gofal
Newyddion

Amser i gefnogi’r rhai hynny sydd wedi ein cefnogi ni yn ystod y pandemig – enwebu eich Sêr Gofal

| Sue Evans, ein Prif Weithredwr

Mae’r pandemig wedi dangos, pe bai angen unrhyw dystiolaeth bellach, pa mor hanfodol yw’r gweithluoedd gofal cymdeithasol a gofal plant ar gyfer llesiant pobl o bob oed mewn cymunedau ar draws Cymru.

Hyd yn oed mewn amseroedd ‘arferol’, mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol mewn gofalu am oedolion, plant, eu teuluoedd a’u gofalwyr, tra bod gweithwyr gofal plant yn helpu i roi cychwyn gwych mewn bywyd i’n plant a darparu cefnogaeth werthfawr ar gyfer rhieni.

Fodd bynnag, mae’r flwyddyn a hanner ddiwethaf wedi bod ymhell iawn o’r hyn sy’n ‘arferol’. Ar gyfer gofal cymdeithasol a gofal plant, mae wedi bod y cyfnod mwyaf heriol o fewn cof. Fodd bynnag, mae’r ymateb gan ein gweithlu a’u rheolwyr a’u harweinwyr wedi bod yn ddim llai na rhyfeddol. Mae eu ffocws llwyr ar gefnogi pobl sy’n dibynnu ar ofal a chymorth o ansawdd da wedi bod yn rhagorol.

Dro ar ôl tro, maen nhw wedi cwrdd â’r heriau anferth a ddaeth gyda Covid, a hynny drwy ddangos eu hymrwymiad a’u proffesiynoldeb. Felly, dyma’r amser i ni edrych ar sut gallwn ni wella’r gefnogaeth i’r rhai hynny sy’n gweithio mewn swyddogaethau gofal. Mae hyn yn angenrheidiol os yw’r sector gofal, fel unigolion ac ar y cyd, i gael adfywiad a pharhau’n gynaliadwy.

Mae pandemig y Covid hefyd wedi tynnu sylw at yr anghydraddoldebau yn ein cymdeithas. Fodd bynnag, mae hyn yn rhoi cyfle digyffelyb i weithredu er mwyn sicrhau bod plant ac oedolion yn gallu byw eu bywydau yn rhydd oddi wrth wahaniaethu.

Ar gyfer mis Mehefin, rydym wedi newid ein logo i gefnogi Mis Pride, ac er mwyn dangos ein hymrwymiad i wneud popeth y gallwn ni i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysoldeb.

Mae’n bwysig hefyd, tra bod atgofion am bethau gwaethaf y pandemig yn fyw yn ein cof, ein bod yn cydnabod y gwahaniaeth cadarnhaol y mae gweithwyr gofal wedi’i wneud i fywydau pobl yn ystod yr amgylchiadau mwyaf anodd.

Dyna pam yr ydym ar hyn o bryd yn rhedeg menter o’r enw Sêr Gofal, sy’n gwahodd unrhyw un i enwebu gweithiwr gofal y maen nhw’n teimlo sy’n haeddu cydnabyddiaeth arbennig am ei ymdrechion yn ystod y 15 mis diwethaf. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau yw 23 Mehefin a gallwch chi weld yr holl fanylion ar ein gwefan.

Gobeithiwn y bydd y cynllun brechu yn parhau i liniaru’r argyfwng iechyd cyhoeddus, ond rydym yn cydnabod ar gyfer ymarferwyr gofal cymdeithasol a gofal plant, dim ond dechrau mae llawer o’r heriau. Dyma pam mae ein cynlluniau eleni yn rhoi blaenoriaeth i helpu gweithluoedd gofal cymdeithasol a gofal plant i gael adfywiad o effaith y pandemig ar eu bywydau personol a phroffesiynol.

Yn ymarferol, bydd hyn yn golygu parhau i ddarparu’r gweithle gydag offer i helpu cynnal eu hiechyd a’u llesiant, buddsoddi i ddatblygu’r gweithlu, denu mwy o bobl i weithio mewn swyddogaethau gofal, creu mwy o gyfleoedd ar gyfer dysgu digidol, ynghyd â defnyddio ymchwil a thystiolaeth i ddarganfod beth arall sydd ei angen i gefnogi’r sector yn y ffordd orau.

Mae’n bwysig hefyd bod sgiliau ac ymroddiad y gweithwyr gofal, yn ystod argyfwng neu unrhyw adeg arall, yn cael eu gwobrwyo yn deg mewn modd sy’n adlewyrchu’r rhan allweddol y maen nhw’n ei chwarae yn llesiant pobl a’n cymunedau. Mae hyn yn rhywbeth sy’n cael ei gydnabod gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi ymrwymo i argymhellion y Comisiwn Gwaith Teg. Rydym yn cefnogi’r llywodraeth gyda’r uchelgais hon.

Yng Ngofal Cymdeithasol Cymru, byddwn yn parhau i wrando ar y gweithlu, y cyflogwyr a’r arweinwyr i gydnabod heriau a chyfleoedd a gwneud beth a allwn ni i’w cefnogi nhw i adfywio, sefydlogi a gwella yn barhaus yn y tymor byr, y tymor canolig ac yn yr hirdymor.