CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Adroddiad yn awgrymu y gall rhaglen newydd arwain at lai o amser yn yr ysbyty i gleifion
Newyddion

Adroddiad yn awgrymu y gall rhaglen newydd arwain at lai o amser yn yr ysbyty i gleifion

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae staff iechyd a gofal cymdeithasol a gymerodd ran mewn rhaglen newydd wnaeth canolbwyntio ar ryddhau o'r ysbyty yn meddwl y gallai arwain at arosiadau byrrach i gleifion.

Bwriad y rhaglen Cydbwyso hawliau a chyfrifoldebau (BRR): rhaglen iechyd a gofal cymdeithasol integredig – cefnogi newid diwylliannol oedd canolbwyntio mwy ar gryfderau cleifion wrth wneud penderfyniadau i'w rhyddhau o’r ysbyty.

Wnaethon ni datblygu'r rhaglen trwy adeiladu ar ddwy raglen iechyd a gofal cymdeithasol sydd eisoes yn bodoli, ac sy’n rhannu egwyddorion cyffredin – Sgiliau Cyfathrebu Cydweithredol a Nodau Gofal.

Trwy gyrsiau a gweithdai, ein nod oedd rhoi mwy o hyder i’r rhai a gymerodd ran i:

  • wrando ar beth mae cleifion yn meddwl a sut maen nhw’n teimlo
  • leihau risg, yn hytrach na chael gwared ohono’n gyfan gwbl
  • drafod penderfyniadau am ofal
  • osgoi argymell gormod o wasanaethau gofal.

Gan weithio gydag Uned Gyflawni’r GIG, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan ac awdurdodau lleol rhanbarth Gwent, wnaethon ni brofi’r rhaglen gydag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol sy’n rhan o’r broses ryddhau cleifion o’r ysbyty.

Wnaethon ni'r gwaith hwn yn ystod y pandemig coronafeirws.

Beth ddysgon ni

Cynhaliwyd gwerthusiad o effeithiolrwydd y rhaglen gan Social Care Institute for Excellence (SCIE).

Yn ôl SCIE, ar ôl cwblhau’r rhaglen roedd y rhan fwyaf o bobl oedd wedi cymryd rhan yn teimlo’n fwy hyderus wrth siarad â chleifion am yr hyn sy’n bwysig iddynt. Roedd bron pawb wedi nodi bod ganddynt gwell dealltwriaeth o ddyletswyddau gofalu.

O’r 68 unigolyn a gymerodd rhan yn y rhaglen, daeth 12 yn “fentoriaid” neu’n “hyrwyddwyr” a mynychu mwy o hyfforddiant.

Wnaethon ni hefyd cael ymrwymiad gan uwch arweinwyr trwy redeg cwrs deuddydd er mwyn cyflwyno gweledigaeth ac egwyddorion y rhaglen iddynt. Ar ddiwedd y rhaglen, wnaethon ni gwahodd yr uwch arweinwyr i ymuno â’r mentoriaid i fyfyrio ar esiamplau o arfer da, cyflawniadau a rhwystrau, ac i weithio ar y cyd i gytuno ar argymhellion ar gyfer y dyfodol.

Roedd mentoriaid a fu’n rhan o’r rhaglen am o leiaf chwe mis yn credu y gallai ymgorffori BRR arwain at ystod o fanteision, gan gynnwys:

  • arosiadau byrrach mewn ysbytai
  • llai o ail-ymweliadau gan gleifion
  • gofal mwy integredig i unigolion wrth i dimau amlddisgyblaethol wneud penderfyniadau gyda’i gilydd
  • gwell adnabyddiaeth o gryfderau/cefnogaeth unigolion, gan gynnwys teulu a’r gymuned
  • cael sgyrsiau pwysig gyda chleifion a’u teuluoedd yn gynharach.

Dywedodd pawb a ymatebodd i arolwg dilynol y byddent yn argymell y rhaglen yn gryf i'w cydweithwyr.

Beth fyddwn yn gwneud nesaf

Er mwyn adeiladu ar yr hyn rydyn ni wedi dysgu, byddwn yn:

  • rhannu canfyddiadau'r adroddiad hwn ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol
  • ystyried gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) sut y gellir ymgorffori canfyddiadau'r gwaith hwn i'r strategaeth gweithlu 10 mlynedd
  • defnyddio arferion dysgu i lywio datblygiadau ar wardiau rhithwir, fframwaith aml-broffesiynol ac aseswyr cymeradwy
  • parhau i ddarparu cymorth sy'n seiliedig ar gryfderau a chynnig hyfforddiant ar draws y sector gofal cymdeithasol
  • gweithio gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a phartneriaid ar sut i gefnogi diwylliannau positif.

Darllenwch yr adroddiad llawn

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn ar wefan SCIE gan clicio yma.