CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Adnoddau newydd i godi ymwybyddiaeth o hawliau pobl hŷn
Newyddion

Adnoddau newydd i godi ymwybyddiaeth o hawliau pobl hŷn

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Ddoe, wnaeth Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, lansio dau adnodd newydd i godi ymwybyddiaeth o hawliau pobl hŷn, ochr yn ochr ag ymgynghoriad am y Strategaeth ar gyfer Cymdeithas Heneiddio.

Bwriad yr adnoddau yw helpu pobl sy'n derbyn ac yn darparu gofal i ddeall yn well beth yw hawliau pobl hŷn. Mae dwy fersiwn o'r adnodd – un ar gyfer pobl hŷn ac un ar gyfer staff awdurdodau lleol sy'n darparu gofal i bobl hŷn.

Mae'r canllawiau – ‘Sicrhau bod hawliau’n gweithio i bobl hŷn’ a ‘Sicrhau bod hawliau’n gweithio i bobl hŷn: Canllawiau ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol’ – wedi'u seilio o amgylch Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Personau Hŷn, a fabwysiadwyd gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar 16 Rhagfyr 1991.

O dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, rhaid i awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau eraill ystyried yr egwyddorion hyn wrth ddarparu gofal a chymorth i bobl hŷn.

Nod yr adnoddau yw grymuso pobl hŷn i gymryd rheolaeth a chydnabod pan fydd eu hawliau'n cael eu peryglu, tra hefyd codi ymwybyddiaeth o'r hawliau ymhlith gweithwyr proffesiynol a sut y gallant sicrhau bod yr hawliau hyn yn cael eu bodloni.

Mae'r adnoddau'n cynnwys enghreifftiau o sut i gymhwyso'r egwyddorion wrth ddarparu gofal a chymorth, ac maen nhw’n pwysleisio pwysigrwydd gweithredoedd bach bob dydd wrth gyflawni hyn.

Gwnaethom ni ddatblygu'r adnoddau gyda chefnogaeth y gweithgor Gwneud Hawliau Go Iawn.

Lawrlwythwch Sicrhau bod hawliau’n gweithio i bobl hŷn a Sicrhau bod hawliau’n gweithio i bobl hŷn: Canllawiau ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.