CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Adnoddau newydd ar gyfer adolygiadau ymarfer i blant ac oedolion
Newyddion

Adnoddau newydd ar gyfer adolygiadau ymarfer i blant ac oedolion

| SCW Online

Rydym wedi cyhoeddi casgliad newydd o adnoddau i gefnogi gweithwyr proffesiynol i gynnal adolygiadau ymarfer i blant ac oedolion.

Yn 2016 mi gyhoeddodd Llywodraeth Cymru arweiniad ar adolygiadau ymarfer aml-asiantaethau i blant ac oedolion. Efallai bydd gofyn am adolygiadau o’r fath yn sgîl digwyddiad sylweddol lle y gwyddys neu amheuir bod camdrin neu esgeuluso plentyn neu oedolyn mewn risg.

Mae’r adnoddau yn mynd â phobl drwy’r broses o gynnal adolygiad. Maen nhw’n trafod pynciau megis yr egwyddorion sy’n ategu adolygiadau yng Nghymru, y sustem adolygu, rolau, atebolrwydd a heriau, adolygiadau fel modd o hybu dysgu, cynnwys teuluoedd a gofalwyr, ysgrifennu adroddiadau a datblygu argymhellion a gweithredoedd am welliant.

Datblygwyd yr adnoddau gan Ymchwil mewn Ymarfer i Oedolion a gellir eu defnyddio ar gyfer dysgu ar-lein neu wyneb-yn-wyneb.

Dysgwch fwy am yr adnoddau adolygu ymarfer i blant ac oedolion