Rydyn ni ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi cyhoeddi ar y cyd adnoddau dysgu newydd i gefnogi darparwyr gofal cymdeithasol i ddatblygu Datganiad o Ddiben da ar gyfer eu gwasanaethau. Mae’r Datganiad o Ddiben yn bwysig: yn ogystal â bod yn ddyletswydd gyfreithiol, mae’n gosod y weledigaeth ar gyfer y gwasanaeth ac yn gadael i unigolion a gofalwyr wybod sut rydych chi’n darparu gofal a chymorth.
Mae’r adnoddau hefyd yn berthnasol i arolygwyr AGC er mwyn eu helpu yn eu rôl yn gweithio ochr-yn-ochr â darparwyr.
Rydym wedi ysgrifennu’r adnoddau ar gyfer darparwyr hyfforddi ac wedi cynnwys cyflwyniad PowerPoint, ymarferion grŵp a thaflenni.
Dywedodd Gerry Evans, Cyfarwyddwr Rheoleiddio a Dirprwy Brif Weithredwr a Chofrestrydd Gofal Cymdeithasol Cymru: “Mae’r adnoddau hyn wedi cael eu datblygu a phrofi gennym gan Welv Consulting. Y nod yw cefnogi darparwyr i ddiwallu gofynion y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) a chael y gorau allan o’u Datganiad o Ddiben. Mae’r adnoddau wedi cael eu dylunio i sicrhau bod darparwyr yn medru dangos yn glir sut mae eu gwasanaethau yn ymateb i anghenion gofalwyr ac unigolion sydd eisiau gofal a chymorth arnynt.
Rydym yn gobeithio bydd llawer o ddefnydd o’r adnoddau ac rydym yn croesawu unrhyw adborth am sut y gallem eu datblygu yn y dyfodol.”