Bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn, a gyflwynir gan Dr Wahida Kent, yn helpu addysgwyr ymarfer gwaith cymdeithasol i ddeall:
- o ble y daw croestoriadedd
- beth yw croestoriad
- sut mae croestoriadedd yn cyd-fynd ag addysg gwaith cymdeithasol.
Byddwch hefyd yn:
- darganfod adnoddau all gefnogi dulliau croestoriadol
- archwilio croestoriadedd mewn cyd-destun ymarfer gan ddefnyddio astudiaeth achos.
Os byddwch yn cymryd rhan, gallwch ddefnyddio’r 2.5 awr o sesiynau i ddangos tystiolaeth o’ch Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP).