CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Help a chyngor os ydych chi wedi codi pryder gyda ni

Efallai eich bod yn gyflogwr, yn gydweithiwr, yn chwythwr chwiban, yn rhywun sy’n defnyddio gofal a chymorth neu’n aelod o’u teulu.

Mae’r ymchwiliad yn cael ei reoli gan un swyddog addasrwydd i ymarfer. Os mai chi yw’r cyflogwr, bydd y swyddog achos yn gofyn am wybodaeth gennych chi ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd am hynt yr achos.

Pan fydd pryderon wedi cael eu codi gan unrhyw un ar wahân i’r cyflogwr neu gorff proffesiynol, er enghraifft rheoleiddiwr arall, Arolygiaeth Gofal Cymru neu’r heddlu, ni fydd y swyddog achos yn gallu siarad â chi am yr hyn sy’n digwydd yn yr achos.

Bydd swyddogion achos yn gallu egluro camau ymchwiliad i chi a’r gwahanol fathau o ganlyniadau ar gyfer ein hachosion. Mae ein hymchwiliadau’n gymhleth, felly maen nhw’n cymryd amser ac yn aml yn golygu casglu tystiolaeth tystion fel rhan o’r achos.

Ble i gael help

Rydym yn deall y gall fod yn dipyn o straen os nad ydych yn siŵr am y broses ac na allwch ofyn cwestiynau penodol am yr ymchwiliad, yn enwedig os yw hyn yn bersonol i chi. Mae Victim Support yn wasanaeth annibynnol sy’n gallu cynnig cymorth emosiynol cyfrinachol i chi, neu gymorth a chyngor ymarferol. Daw’r cyngor gan dîm sydd wedi’i hyfforddi’n arbennig.

Dysgwch mwy am sut i gael cymorth os ydych chi wedi codi pryder gyda ni.

Victim Support

Ffôn: 0808 196 8638 (ar gael 8yb tan 6yh, dydd Llun i ddydd Gwener)
E-bost: SocialCareWales@victimsupport.org.uk (ar gael 8yb tan 6yh, dydd Llun i ddydd Gwener)

Mae galwadau i’r rhif hwn am ddim. Os hoffech gael help mewn iaith arall yn ystod eich cyswllt â Chymorth i Ddioddefwyr, byddant yn trefnu ac yn talu am gyfieithydd i helpu.

Gallwch ffonio unrhyw bryd yn ystod y broses am unrhyw beth sy’n eich poeni am yr ymchwiliad. Gallwch ofyn am help a chyngor neu siarad am eich teimladau. Pan fydd yr ymchwiliad wedi dod i ben, gall Cymorth i Ddioddefwyr eich helpu i symud ymlaen.

Ni fyddant yn gwybod dim am yr unigolyn sy’n destun yr ymchwiliad, oni bai eich bod yn dweud wrthynt. Does dim rhaid i chi roi eich enw nac unrhyw wybodaeth bersonol os nad ydych chi eisiau gwneud hynny. Ni fyddant yn rhannu eich gwybodaeth oni bai eich bod yn gofyn iddynt wneud hynny.