CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Geiriau ac ymadroddion rydym yn defnyddio yn ystod y broses addasrwydd i ymarfer

A

Achwynydd - Unrhyw un (gall fod yn aelod o'r cyhoedd, cyflogwr neu sefydliad addysg uwch) sy'n cyfeirio pryder neu gŵyn yn erbyn person cofrestredig i ni.

Adolygiad cyn-wrandawiad - Cyfarfod sy'n cael ei gynnal i wneud trefniadau gweinyddol ar gyfer gwrandawiad addasrwydd i ymarfer. Mae'r person cofrestredig yn cael ei (g)wahodd i gymryd rhan yn y cyfarfod hwn.

Addasrwydd i ymarfer (tîm) - Y tîm sy'n cynnal ymchwiliadau.

Amhariad - Os yw person cofrestredig wedi'i 'amharu', mae’n golygu bod panel yn meddwl ei fod yn anniogel iddyn nhw i ymarfer fel gweithiwr gofal cymdeithasol.

Amodau ymarfer / gorchymyn cofrestru amodol dros dro - Pan mae'r panel yn gosod amodau ar gofrestriad person cofrestredig am gyfnod penodol, er mwyn diogelu'r cyhoedd, fel arall er budd y cyhoedd neu er budd y person cofrestredig. Disgwylir i'r person cofrestredig fodloni'r amodau a lle'n briodol darparu tystiolaeth i wrandawiad adolygu ei bod nhw wedi bodloni'r amodau.

Apêl - Os yw person cofrestredig yn anghytuno â phenderfyniad y panel, gall apelio yn erbyn y penderfyniad trwy wneud cais i'r Tribiwnlys Safonau Gofal.

C

Camymddygiad - Ymddygiad annerbyniol neu amhriodol.

Canlyniad gwrandawiad - Dyma'r penderfyniad y mae'r panel yn ei wneud ar ddiwedd y gwrandawiad.

Clerc - Aelod o staff Gofal Cymdeithasol Cymru sy'n brif gyswllt ar gyfer unrhyw un sy'n cymryd rhan mewn gwrandawiad. Mae'n gyfrifol am ddyletswyddau gweinyddol hwyluso gwrandawiad neu gyfarfod. Nid yw'n cymryd rhan mewn unrhyw benderfyniadau.

Côd Ymarfer Proffesiynol - Rheolau, neu safonau rhaid i ofalwyr proffesiynol ddilyn. Maent yn helpu cadw defnyddwyr gofal a chefnogaeth a'r cyhoedd yn ddiogel.

Cofrestr Gofal Cymdeithasol Cymru (Y Gofrestr) - Rhestr o enwau'r bobl sydd wedi'u cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru. Gallwch ddod o hyd i'r Gofrestr ar ein gwefan.

Cyfeirydd - Yr unigolyn a anfonodd wybodaeth atom am ymddygiad honedig unigolyn cofrestredig. Gallai fod yn gyn-gyflogwr neu'n gyflogwr cyfredol, aelod o'r cyhoedd neu'r heddlu.

Cyflwyniad ysgrifenedig - Pan mae person cofrestredig yn rhoi ei (h)ymateb i'r honiadau mewn e-bost neu lythyr.

Cyflwynydd - Yr unigolyn sy'n gweithredu ar ran Gofal Cymdeithasol Cymru ac sy’n cyflwyno’r achos i’r panel. Fel arfer maent yn gyfreithiwr.

Cyhuddiadau - Cyhuddiadau yn erbyn unigolyn cofrestredig mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn ymchwilio.

Cynghorydd cyfreithiol - Cyfreithiwr sy’n rhoi cyngor cyfreithiol annibynnol i’r panel i'w helpu i wneud penderfyniad am achos. Mae'n sicrhau bod y gwrandawiad yn deg ac yn gyfreithlon. Nid yw'n cymryd rhan ym mhroses benderfynu'r panel.

Cynghorydd meddygol - Meddyg rydyn ni wedi'i benodi i roi cyngor annibynnol sy'n esbonio i'r panel beth mae unrhyw dermau meddygol neu glinigol yn ei olygu. Nid ydynt yn cymryd rhan ym mhroses benderfynu'r panel.

Cynrychiolydd - Rhywun sydd yn cynrychioli person cofrestredig mewn gwrandawiad ac yn siarad ar ei rhan. Gallant fod yn gyfreithiwr, bargyfreithiwr, cynrychiolydd undeb llafur neu rywun arall.

D

Datganiad tyst - Datganiad ysgrifenedig am adroddiad tyst o beth ddigwyddodd. Mae swyddog addasrwydd i ymarfer yn helpu'r tyst gyda'i ddatganiad. Gellir galw'r tyst i fynychu gwrandawiad i rhoi tystiolaeth ac ateb cwestiynau am y datganiad.

Defnyddiwr gwasanaethau gofal a chefnogaeth - Person sydd yn defnyddio gwasanaethau gofal a chefnogaeth.

Diogelu'r cyhoedd - I ddiogelu'r cyhoedd. Ffocws y panel yw diogelu'r cyhoedd, yn hytrach na chosbi'r unigolyn cofrestredig.

Dros dro - Am y tro, nid yw'n barhaol.

E

Edifeirwch - Teimladau o ofid mawr neu euogrwydd, fel arfer mewn perthynas â gweithred, adweithred neu ganlyniad.

G

Gorchymyn amodau cofrestru dros dro - Gallwn ofyn i banel osod amodau dros dro ar ymarfer person cofrestredig os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol er mwyn diogelu’r cyhoedd, fel arall er budd y cyhoedd neu er budd y person cofrestredig. Disgwylir i’r person cofrestredig fodloni’r amodau a, lle bo’n berthnasol, darparu tystiolaeth i banel gwrandawiad ei fod wedi cydymffurfio â’r amodau.

Gorchymyn atal dros dro - Gorchymyn sy'n atal y person cofrestredig rhag gweithio mewn gofal cymdeithasol am gyfnod penodol. Bydd yr ataliad i'w weld ar y gofrestr tra bod y gorchymyn yn ei le.

Gorchymyn dileu - Pan mae enw person cofrestredig yn cael ei ddileu oddi ar y Gofrestr gan banel yn dilyn achos addasrwydd i ymarfer ac ni fydd yn gallu ymarfer mewn rôl gofal cymdeithasol cofrestredig.

Gorchymyn dros dro - Canlyniad dros dro sydd ar waith tra bod ymchwiliad yn mynd ymlmaen. Gallai fod yn ei le am hyd at 18 mis, neu'n hirach os caiff ei ymestyn gan y Tribiwnlys Safonau Gofal. Bydd gorchymyn dros dro yn cael ei adolygu gan banel mewn gwrandawiad bob 6 mis.

Gwrandawiad - Cyfarfod ffurfiol lle mae panel yn gwneud penderfyniad. Tebyg i wrandawiad llys neu tribiwnlys.

Gwrandawiad â chymorth - Gwrandawiad sy'n cael ei gynnal ar Zoom lle y caniatawyd i'r person cofrestredig ddefnyddio swyddfa Gofal Cymdeithasol Cymru i ddefnyddio ein hoffer i gymryd rhan yn y gwrandawiad.

Gwrandawiad cyhoeddus - Gwrandawiad sy'n agored i'r cyhoedd a lle gall y wasg fod yn bresennol. Efallai fe fydd rhai rhannau o'r gwrandawiad yn cael ei gynnal ym mhreifat a fe fyddwn yn gofyn i'r cyhoedd adael y gwrandawiad yn ystod yr adegau yma.

Gwrandawiad o bell - Gwrandawiad sy'n cael ei gynnal arlein, ar Zoom.

Gwrandawiad preifat - Ni chaniateir i aelodau'r cyhoedd a'r wasg fynychu'r gwrandawiad hwn. Dim ond yr unigolion sy'n rhan o'r gwrandawiad sy'n cael bod yn bresennol.

Gwrandawiad wyneb yn wyneb - Gwrandawiad lle mae pobl yn bresennol, er enghraifft, yn ein swyddfeydd yng Nghaerdydd leoliad arall gydag ystafell addas ar gyfer gwrandawiad.

H

Hysbysiad o wrandawiad - Llythyr yn gwahodd person cofrestredig i wrandawiad neu gyfarfod. Byddwn naill ai'n ei anfon drwy e-bost neu drwy'r post. Mae'r llythyr yn cynnwys y dystiolaeth y bydd y panel yn edrych arni.

L

Llythyr hysbysiad o benderfyniad - Llythyr sy'n cadarnhau canlyniad gwrandawiad y panel ac yn cynnwys rhesymau'r panel. Gellir anfon llythyrau drwy e-bost neu drwy'r post.

M

Mewnwelediad - Y gallu i ddeall rhywbeth sydd wedi digwydd o ran sut a pham wnaeth ddigwydd, rôl y person yn y digwyddiad neu'r weithred, effaith y weithred ar bobl eraill, ac, lle'n briodol, sut y gellir ei atal yn y dyfodol.

P

Panel - Mae pob gwrandawiad yn cynnwys panel o 3 aelod, gan gynnwys: Cadeirydd sy'n aelod lleyg; aelod gofal cymdeithasol sy'n unigolyn a all fod yn gofrestredig â Gofal Cymdeithasol Cymru ac sydd â phrofiad o weithio mewn gofal cymdeithasol; ac aelod lleyg nad oes ganddo unrhyw brofiad o weithio mewn gofal cymdeithasol, ond gall fod â phrofiad o ddefnyddio gofal cymdeithasol.

Panel gorchymyn dros dro - Y panel sy'n ystyried gosod gorchymynion dros dro.

Parti - Unigolyn sy'n ymwneud ag achos. Er enghraifft, mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn barti ac mae'r person cofrestredig yn barti.

Person cofrestredig - Pesron sydd wedi cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru.

R

Rhestr gwahardd - Rhestr sy'n cael ei chadw gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) o bobl nad ydynt yn cael gweithio gydag oedolion neu blant (neu'r ddau).

Rhestr o bersonau sydd wedi'u tynnu oddi ar Gofrestr Gofal Cymdeithasol Cymru - Rhestr o bobl sydd wedi'u tynnu oddi ar y Gofrestr gan banel addasrwydd i ymarfer. Nid yw'r bobl ar y rhestr yma yn gallu gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru.

S

Swyddog addasrwydd i ymarfer - Aelod staff Gofal Cymdeithasol Cymru sy'n cynnal ymchwiliadau.

T

Trafodaethau'r panel - Dyma pan fydd y panel yn trafod yr achos yn breifat ac yn gwneud penderfyniad.

Tribiwnlys Safonau Gofal - Tribiwnlys annibynnol sydd yn ystyried ceisiadau am ymestyn gorchymyn interim ag apeliadau yn erbyn penderfyniad panel.

Tyst - Rhywun a fydd yn siarad ac ateb cwestiynau mewn gwrandawiadau am gŵyn neu honiad.

Tystiolaeth - Gwybodaeth sy'n cael ei chasglu gan y swyddog addasrwydd i ymarfer yn ymwneud ag achos, a all gynnwys gwybodaeth (tystiolaeth) y mae'r person cofrestredig wedi'i rhoi i ni. Tystiolaeth yw unrhyw beth yr ydym ni a’r person cofrestredig yn meddwl y gellid ei ddefnyddio i helpu’r panel sy’n ystyried yr honiadau. Mae hyn yn cynnwys llythyrau, adroddiadau, lluniau teledu cylch cyfyng, fideos a gymerwyd ar ffôn symudol neu ffeiliau yn ymwneud ag achosion disgyblu. Bydd panel yn cael tystiolaeth i edrych arni mewn gwrandawiad.

U

Uniondeb - Y rhinwedd o fod yn onest a bod ag egwyddorion moesol cryf.

Y

Y Ddeddf - Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

Ymchwiliad - Pan fydd honiad yn cael ei wneud yn erbyn person cofrestredig, bydd y swyddog addasrwydd i ymarfer yn ymchwilio ac yn casglu gwybodaeth i gefnogi'r honiad. Gallai'r wybodaeth hon gael ei rhoi i banel mewn gwrandawiad i wneud penderfyniad, a gelwir hwn y 'bwndel'.

Ymddygiad - Ymddygiad y person cofrestredig.

Yn absenoldeb - Pan mae gwrandawiad yn mynd ymlaen heb y person cofrestredig yn bresennol.

Yn y dirgel - Pan fydd y panel yn ystyried neu'n trafod yr achos yn breifat.

Ystafell ymneilltuo - Ystafell rithwir breifat lle mae pobl sydd yn y gwrandawiad yn aros yn ystod egwyliau.

Z

Zoom - Platfform fideo-gynadledda rydym yn ei ddefnyddio i gynnal gwrandawiadau ar-lein.