CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Achosion addasrwydd i ymarfer: cael help a chyngor os oes pryderon wedi’u codi amdanoch chi a’ch bod wedi cael eich cyfeirio atom ni

Rydyn ni’n deall bod cael eich cyfeirio atom ni yn gallu bod yn ddryslyd ac yn annifyr. Rydyn ni eisiau helpu i’w gwneud hi’n haws i chi gymryd rhan yn yr ymchwiliad.

Bydd eich achos yn cael ei reoli gan swyddog addasrwydd i ymarfer sy’n deall beth sydd wedi digwydd ac sy’n gallu siarad â chi am eich achos ac ateb eich cwestiynau.

Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein hymchwiliad, drwy e-bost fel arfer.

Cysylltwch â’ch swyddog achos addasrwydd i ymarfer (bydd y cyfeiriad e-bost a'r rhif ffôn wedi'u darparu i chi) os oes angen help arnoch i:

  • ddeall y llythyrau rydym yn eu hanfon atoch
  • ddeall y broses
  • ymateb i ni.

Linell gymorth llesiant

Mae gennym linell gymorth llesiant annibynnol a chyfrinachol am ddim a all roi cymorth i chi tra byddwch yn mynd drwy’r broses gwrandawiadau. Mae’n cael ei redeg gan Wellbeing Solutions ac mae ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Gall Wellbeing Solutions roi cyngor i chi am faterion ariannol a gwaith, yn ogystal â chymorth gyda’ch lles a chymorth cwnsela.

Ffôn: 0808 169 8691

I wybod mwy am ba gymorth y gallwch ei gael, gwyliwch y fideo hwn

Sefydliadau eraill a all gynnig cyngor a chefnogaeth i chi

Cyngor proffesiynol neu gyfreithiol

Efallai y byddwch am gael cyngor proffesiynol neu gyfreithiol cyn i chi ymateb i ni. Gallwch wneud hyn trwy gysylltu â:

  • eich undeb llafur, os ydych chi’n aelod o undeb
  • cymdeithas broffesiynol, er enghraifft BASW (Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain);
  • gallech ystyried defnyddio’ch cyfreithiwr eich hun, ond gall hyn fod yn ddrud – efallai y gall sefydliadau eraill sydd wedi’u rhestru eich helpu am ddim
  • Advocate: elusen sy’n helpu pobl i ddod o hyd i gymorth cyfreithiol am ddim. Bydd angen i chi fodloni meini prawf cymhwysedd i wneud cais am hwn a gallai Cyngor ar Bopeth eich helpu i wirio hyn

    Ffôn: 0207 092 3960 (Dydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener, 10.15am tan 12.45pm)
    E-bost: Enquiries@weareadvocate.org.uk
    Gwefan: www.weareadvocate.org.uk
  • Cyngor ar Bopeth: Mae Cyngor ar Bopeth yn rhoi cyngor annibynnol, cyfrinachol a diduedd yn rhad ac am ddim i bawb ar eu hawliau a’u cyfrifoldebau. Gallant roi cyngor ar fudd-daliadau, gwaith, dyled ac arian, hawliau defnyddwyr, teuluoedd a thai, y gyfraith a’r llysoedd, mewnfudo ac iechyd. Maent yn rhoi pwys ar amrywiaeth, yn hyrwyddo cydraddoldeb ac yn herio gwahaniaethu.

    Gallwch ymweld ag un o’u 3,500 o ganghennau neu gysylltu â:

    Ffôn (Cymru): 03444 772 020
    Ffôn (Lloegr): 03444 111 444
    Cyfnewid testun: 03444 111 445
    Gwefan: www.citizensadvice.org.uk/cymraeg
    Sgwrs ar-lein ar www.citizensadvice.org.uk/cymraeg

Sefydliadau a all eich helpu gydag arian neu lesiant

Gallwn roi cymorth cyfrinachol i chi trwy ein rhaglen cefnogi llesiant, ond efallai gall y sefydliadau canlynol helpu hefyd:

  • Cyngor ar Bopeth: Mae Cyngor ar Bopeth yn rhoi cyngor annibynnol, cyfrinachol a diduedd yn rhad ac am ddim i bawb ar eu hawliau a’u cyfrifoldebau. Gallant roi cyngor ar fudd-daliadau, gwaith, dyled ac arian, hawliau defnyddwyr, teuluoedd a thai, y gyfraith a’r llysoedd, mewnfudo, ac iechyd. Maent yn rhoi pwys ar amrywiaeth, yn hyrwyddo cydraddoldeb ac yn herio gwahaniaethu.

    Gallwch ymweld ag un o’u 3,500 o ganghennau neu gysylltu â:

    Ffôn (Cymru): 03444 772 020
    Ffôn (Lloegr): 03444 111 444
    Cyfnewid testun: 03444 111 445
    Gwefan: www.citizensadvice.org.uk/cymraeg
    Sgwrs ar-lein: www.citizensadvice.org.uk/cymraeg
  • Dewis: gwybodaeth neu gyngor ar sut i ofalu am eich llesiant chi neu lesiant rhywun arall.

    Gwefan: www.dewis.cymru
  • Dan247: Mae Dan 247 yn llinell gymorth rad ac am ddim ynghylch cyffuriau i unrhyw un yng Nghymru sydd angen gwybodaeth neu gymorth ynghylch cyffuriau neu alcohol.

    Ffôn: 08088 082 234 (ar gael 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos)
    Gwefan: www.dan247.org.uk
    Tecstiwch DAN at 81066
  • Harmless: Mae Harmless yn rhoi help, gwybodaeth, hyfforddiant ac ymgynghori ynghylch hunan-niweidio ac atal hunanladdiad. Mae ar gael i bobl sy’n hunan-niweidio, eu ffrindiau a’u teuluoedd a gweithwyr proffesiynol, a phobl sydd mewn perygl o gyflawni hunanladdiad.

    E-bost: info@harmless.org.uk
    Gwefan: www.harmless.org.uk
  • Llinell Gymorth Byw Heb Ofn: Mae Byw Heb Ofn yn rhoi help a chyngor cyfrinachol i:
    • unrhyw un sy’n profi cam-drin domestig
    • unrhyw un sy’n gwybod am rywun sydd angen help.

      Ffôn: 08088 010 800 (ar gael 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos)
      Testun: 07860 077 333 (ar gael 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos)
      E-bost: gwybodaeth@llinellgymorthbywhebofn.cymru
      Sgwrsio ar-lein ar llyw.cymru/byw-heb-ofn (ar gael 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos)
  • Mind: Mae Mind yn rhoi cyngor a chymorth i unrhyw un sy’n cael problem iechyd meddwl. Gall eu llinell gyfreithiol roi gwybodaeth i chi am gyfraith iechyd meddwl ar gyfer y cyhoedd, defnyddwyr gwasanaeth, aelodau teulu/gofalwyr, gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl ac eiriolwyr iechyd meddwl.

    Ar gyfer unrhyw beth sy’n ymwneud ag iechyd meddwl: 0300 123 3393 (Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 6pm)
    Llinell gyfreithiol Mind: 0300 466 6463
    E-bost gwybodaeth: info@mind.org.uk
    E-bost cyfreithiol: legal@mind.org.uk
    Gwefan: www.mind.org.uk
  • Refuge: Os ydych chi’n profi trais domestig, nid ydych ar eich pen eich hun. Refuge yw’r elusen genedlaethol sy’n helpu menywod, plant a dynion sy’n profi trais domestig a thrais a chamdriniaeth arall.

    Rhadffôn: 0808 2000 247 (24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos)
    Gwefan: www.refuge.org.uk
  • Relate: elusen sy’n rhoi cymorth ar berthnasoedd yng Nghymru a Lloegr. Maent yn cynnig cwnsela, gwybodaeth, cyfryngu a chymorth i unigolion, cyplau a theuluoedd, gan weithio wyneb yn wyneb, ar-lein ac ar y ffôn gyda phobl o bob cefndir a rhywioldeb, ym mhob cam bywyd.

    Gwefan: www.relate.org.uk
  • Y Samariaid: Gallwch siarad â’r Samariaid unrhyw bryd am unrhyw beth sy’n eich gofidio chi. Bydd unrhyw beth a ddywedwch chi wrthyn nhw yn aros yn gwbl gyfrinachol. Gallant eich helpu i archwilio’ch opsiynau, deall eich problemau’n well, neu fod yn glust i wrando. Mae’r Samariaid ar agor 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.

    Rhadffôn: 116 123
    E-bost: jo@samaritans.org (cewch ymateb o fewn 24 awr)
    Gwefan: www.samaritans.org
  • Shelter: Mae Shelter yn helpu miliynau o bobl bob blwyddyn sy’n cael trafferth â thai gwael neu ddigartrefedd trwy eu gwasanaethau cyngor, cymorth a chyfreithiol.

    Shelter Cymru
    Ffôn: 0333 5549 996
    Gwefan: sheltercymru.org.uk/cy

    Shelter Lloegr
    Ffôn: 0808 8004 444
    Gwefan: england.shelter.org.uk
  • Stepchange: Mae Stepchange yn cynnig cyngor rhad ac am ddim ar ddyledion, yn ôl eich sefyllfa. Maent yn rhoi help a chymorth ymarferol am ba hyd bynnag y bydd ei angen arnoch.

    Gwefan: www.stepchange.org
  • Turn2Us: elusen genedlaethol i helpu pobl i ddod o hyd i fudd-daliadau, grantiau a chymorth ariannol ar-lein. Mae ganddynt gyfrifiannell fudd-daliadau i ddarganfod pa fudd-daliadau, credydau treth neu gymorth arall y wladwriaeth y mae gennych hawl iddynt.

    Gallwch ddefnyddio adnodd chwilio grantiau’r elusen i ddarganfod arian a nwyddau gan filoedd o gronfeydd elusennol.

    Gwefan: www.turn2us.org.uk