CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Paulina Andrzejczak
Rôl cofrestredig
Gweithiwr gofal catref
Canlyniad
Gorchymyn Dileu
Lleoliad
Roedd hwn yn gwrandawiad o bell gan Zoom
Cyflogwr
Yn flaenorol Pobl Care and Support
Math o wrandawiad
Panel addasrwydd i ymarfer

Crynodeb o'r penderfyniad

Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer wedi canfod bod tri chyfrif o Ddwyn gan ddefnyddiwr gofal a chymorth sy'n agored i niwed, sef cyfanswm o £900 yn groes i Adran 1(1) a 7 o Ddeddf Dwyn 1968 wedi profi yn erbyn Paulina Andrzejczak, gweithiwr gofal cartref cofrestredig.

Canfu'r Panel fod amhariad ar addasrwydd i ymarfer presennol Paulina Andrzejczak a gosododd Orchymyn Dileu sy'n golygu na fydd yn gallu gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol a reoleiddir yng Nghymru. Bydd enw Paulina Andrzejczak yn cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr a'i roi ar y Rhestr o Bersonau a Dynnwyd.

Mae gan Paulina Andrzejczak yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal o fewn 28 diwrnod.

Mae rhesymau’r panel ar gael ar gais.

Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru

Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru


Crynodeb o honiadau

Tra'i bod wedi'i chofrestru fel Gweithiwr Gofal Cartref, ar 5 Hydref 2021 cafwyd Ms Andrzejczak yn euog a'i dedfrydu yn Llys Ynadon Casnewydd am y troseddau canlynol:

i) Tri chyfrif o ddwyn oddi wrth defnyddiwr gofal a chymorth bregus, cyfanswm o £900 yn groes i Adran 1(1) a 7 o Ddeddf Dwyn 1968.