CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Oluwayemisi Sobola
Rôl cofrestredig
Gweithiwr gofal catref
Canlyniad
Gorchymyn Dileu
Lleoliad
Roedd hwn yn wrandawiad o bell drwy Zoom
Cyflogwr
Yn flaenorol Ashberry Healthcare Ltd.
Math o wrandawiad
Addasrwydd i ymarfer

Crynodeb o'r penderfyniad

Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer wedi canfod bod euogfarn am ddwyn oddi ar berson arall wedi’i phrofi yn erbyn Oluwayemisi Sobola, gweithiwr gofal cartref:

Canfu’r Panel fod addasrwydd i ymarfer presennol Oluwayemisi Sobola wedi’i amharu a’i bod wedi gosod Gorchymyn Dileu sy’n golygu na all weithio mwyach mewn unrhyw rôl gofal cymdeithasol a reoleiddir yng Nghymru.

Mae gan Oluwayemisi Sobola yr hawl i apelio i’r Tribiwnlys Safonau Gofal o fewn 28 diwrnod.

Mae copi o resymau y panel ar gael ar gais.

----------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru

Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru

Crynodeb o honiadau

Tra wedi'i gofrestru fel gweithiwr gofal cartref:

Ar 26 Hydref 2021 cafwyd Oluwayemisi Sobola yn euog yn Llys Ynadon Llanelli o ddwyn oddi ar berson arall, a chafodd ei ddedfrydu ar 17 Tachwedd 2021 i Orchymyn Cymunedol o 100 Awr o waith di-dâl, i dalu costau i Wasanaeth Erlyn y Goron o £640.00 ac i dalu gordal ychwanegol o £95.