CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Nicola Jane Hoare
Rôl cofrestredig
Gweithiwr gofal catref
Canlyniad
Gorchymyn brys i atal cofrestriad o 09/06/2023 tan ddechrau Gorchymyn Dileu ar 07/07/2023
Lleoliad
Roedd hwn yn wrandawiad o bell drwy Zoom
Cyflogwr
Yn flaenorol Lifeways Care Group and Cartrefi
Math o wrandawiad
Panel addasrwydd i ymarfer

Crynodeb o'r penderfyniad

Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer wedi canfod bod pryderon diogelu difrifol yn cael eu profi yn erbyn Nicola Jane Hoare, gweithiwr gofal cartref cofrestredig.

Canfu'r Panel fod diffyg addasrwydd i ymarfer presennol Nicola Jane Hoare a gosododd Orchymyn Dileu sy'n golygu na fydd hi'n gallu gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol reoledig yng Nghymru. Bydd enw Nicola Jane Hoare yn cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr a'i roi ar y Rhestr o Bersonau a Dynnir.

Mae gan Nicola Jane Hoare yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal o fewn 28 diwrnod.

Mae mwy o wybodaeth am yr achos ar gael ar gais, fodd bynnag, nodwch y gellir golygu rhywfaint o wybodaeth.

Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru

Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru