CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Lisa Hoskins
Rôl cofrestredig
Gweithiwr cymdeithasol
Canlyniad
Gorchymyn dileu
Lleoliad
Roedd hwn yn wrandawiad o bell drwy Zoom
Cyflogwr
Yn flaenorol Cyngor Dinas Casnewydd
Math o wrandawiad
Panel addasrwydd i ymarfer

Crynodeb o'r penderfyniad

Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer wedi canfod euogfarn o wyth achos o dwyll a brofwyd yn erbyn Lisa Hoskins, Gweithiwr Cymdeithasol cofrestredig.

Canfu’r Panel fod amhariad ar addasrwydd presennol Ms Hoskin i ymarfer a gosododd Orchymyn Dileu sy’n golygu bod Ms Hoskin’s wedi’i thynnu oddi ar Gofrestr Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae gan Ms Hoskin’s yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal cyn pen 28 diwrnod.

Mae rhesymau’r panel ar gael ar gais.

----------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru

Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru

Crynodeb o honiadau

Cafwyd Ms Hoskins yn euog yn Llys y Goron Caerdydd o wyth achos o Dwyll, yn groes i adran 1 o Ddeddf Twyll 2006, a chafodd ddedfryd o 16 mis o garchar wedi'i gohirio am 24 mis gyda gofyniad o 250 awr o waith di-dâl ac i dalu iawndal o £16,814.10 a gordal dioddefwr o £140