CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Julie Margaret Murphy
Rôl cofrestredig
Gweithiwr cymdeithasol
Canlyniad
Gorchymyn Dileu
Lleoliad
Roedd hwn yn wrandawiad o bell drwy Zoom
Cyflogwr
Yn flaenorol Ceredigion County
Math o wrandawiad
Panel addasrwydd i ymarfer

Crynodeb o'r penderfyniad

Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer wedi canfod methiannau diogelu difrifol a arweiniodd at gam-drin plant dan oed a brofwyd yn erbyn Julie Margaret Murphy, Gweithiwr Cymdeithasol Cymwysedig cofrestredig.

Canfu’r Panel fod amhariad ar addasrwydd presennol Ms Murphy i ymarfer a gosododd Orchymyn Dileu sy’n golygu na fydd Ms Murphy yn gallu gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol a reoleiddir yng Nghymru. Bydd enw Ms Murphy yn cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr a’i roi ar y Rhestr o Bobl sydd wedi’u Dileu o’r Gofrestr.

Mae gan Ms Murphy yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal o fewn 28 diwrnod.

Mae rhagor o wybodaeth am yr achos ar gael ar gais. Fodd bynnag, sylwch y gallai rhywfaint o wybodaeth gael ei golygu.

----------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru
Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru



Crynodeb o honiadau

Bydd y gwrandawiad hwn yn ystyried pryderon diogelu difrifol a godwyd mewn perthynas ag ymddygiad Ms Murphy.