CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Jade Dominique Davies
Rôl cofrestredig
Gweithiwr gofal preswyl i blant
Canlyniad
Gorchymyn dileu
Lleoliad
Roedd hwn yn wrandawiad o bell drwy Zoom
Cyflogwr
Yn flaenorol Keys Group
Math o wrandawiad
Panel addasrwydd i ymarfer

Crynodeb o'r penderfyniad

Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer wedi canfod honiadau a brofwyd yn erbyn Jade Dominque Davies, gweithiwr gofal plant preswyl cofrestredig, o fethiant i gynnal ffiniau proffesiynol a/neu ffurfio perthynas amhriodol â phlentyn. Canfuwyd honiadau o anonestrwydd hefyd.

Canfu'r Panel fod nam ar addasrwydd i ymarfer presennol Jade Dominique Davies a gosododd Orchymyn Dileu sy'n golygu na fydd yn gallu gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol a reoleiddir yng Nghymru. Bydd enw Jade Dominique Davies yn cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr a'i roi ar y Rhestr o Bersonau a Dynnwyd.

Mae gan Jade Dominique Davies yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal o fewn 28 diwrnod.

Mae copi o resymau llawn y panel ar gael ar gais.

----------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru

Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru

Crynodeb o honiadau

Honnir bod Ms Davies wedi methu â chynnal ffin broffesiynol briodol â Phlentyn A o ran ei bod wedi cyfathrebu drwy neges destun â Phlentyn A, wedi caniatáu i Blentyn A ddod i mewn i’w chartref, a’i bod wedi cymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol gyda Phlentyn A. Honnir hefyd iddi ddweud wrth Plentyn A am ddileu tystiolaeth o’u cyfathrebiadau o ffôn symudol a darparu ei ffôn symudol i’w chyflogwr ar ôl dileu tystiolaeth o gyfathrebu neges destun â Phlentyn A.