CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Christopher Davies
Rôl cofrestredig
Gweithiwr cartrefi gofal oedolion
Canlyniad
Gorchymyn Dileu
Lleoliad
Roedd hwn yn wrandawiad o bell drwy Zoom
Cyflogwr
Yn flaenorol Brooklands Home
Math o wrandawiad
Panel addasrwydd i ymarfer

Crynodeb o'r penderfyniad

Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer wedi canfod bod yr honiadau canlynol wedi’u profi yn erbyn Mr Davies, gweithiwr cartref gofal i oedolion cofrestredig.

Ar 6 Ebrill 2022, cafwyd Mr Davies yn euog yn Llys Ynadon Hwlffordd o’r drosedd o ymosod drwy guro ac yn ddiweddarach methodd â datgelu’r euogfarn hon wrth wneud cais i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ar neu tua 4 Gorffennaf 2022. Canfu’r Panel ymddygiad Mr Davies o ran y mater hwn i fod yn anonest a diffyg cywirdeb. Mynychodd Mr Davies ar ddyletswydd yn y gwaith ar 17 Medi 2022, pan nad oedd yn ffit i wneud hynny oherwydd yfed alcohol.

Canfu’r Panel fod amhariad ar addasrwydd presennol Mr Davies i ymarfer a gosododd Orchymyn Dileu sy’n golygu na fydd yn gallu gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol a reoleiddir yng Nghymru.

Bydd enw Mr Davies yn cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr a’i roi ar y Rhestr o Bobl sy’n Cael eu Dileu o’r Gofrestr.

Mae gan Mr Davies yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal cyn pen 28 diwrnod.

Mae mwy o wybodaeth am yr achos ar gael ar gais, fodd bynnag noder y gallai peth gwybodaeth gael ei golygu.

Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru
Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru