CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Christine Roberts
Rôl cofrestredig
Gweithiwr gofal catref
Canlyniad
Gorchymyn dileu
Lleoliad
Mae hwn yn gwrandawiad o bell gan Zoom
Cyflogwr
Yn flaenorol Cymorth Llaw ltd
Math o wrandawiad
Addasrwydd i ymarfer

Crynodeb o'r penderfyniad

Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer wedi canfod bod yr honiadau canlynol wedi'u profi yn erbyn Christine Roberts, gweithiwr gofal cartref

- mynychu'r gwaith pan oedd hi'n anaddas i wneud hynny oherwydd yfed alcohol.

- wedi methu â gwisgo mwgwd wyneb bob amser wrth ddarparu gofal i ddefnyddiwr gofal a chefnogaeth

- wedi torri Polisi Gyrru am Waith ei chyflogwyr trwy yrru ar ôl yfed alcohol.

Pob un profwyd.

Canfu'r Panel fod nam ar addasrwydd i ymarfer cyfredol Christine Roberts a gosododd Orchymyn Dileu sy'n golygu na all weithio mwyach mewn unrhyw rôl a reoleiddir mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae gan Christine Roberts yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal cyn pen 28 diwrnod.

Mae copi o resymau llawn y panel ar gael ar gais.

----------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru

Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru

Crynodeb o honiadau

Honnir bod y Person Cofrestredig wedi mynychu gwaith pan oedd yn anaddas i wneud hynny oherwydd ei fod yn yfed alcohol. Honnir hefyd iddi fethu â gwisgo mwgwd wyneb bob amser wrth ddarparu gofal i ddefnyddiwr gofal a chefnogaeth, a thorri polisi gyrru am waith ei chyflogwr oherwydd gyrru ar ôl yfed alcohol.