CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Caron Boyle
Rôl cofrestredig
Gweithiwr cartrefi gofal oedolion
Canlyniad
Gorchymyn Dileu
Lleoliad
Roedd hwn yn wrandawiad o bell drwy Zoom
Math o wrandawiad
Panel addasrwydd i ymarfer

Crynodeb o'r penderfyniad

Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer wedi canfod bod yr honiadau o esgeuluso defnyddiwr gofal a chymorth, ffugio cofnodion a phryderon diogelu difrifol, wedi’u profi yn erbyn Caron Boyle, gweithiwr cartref gofal i oedolion cofrestredig.

Canfu’r Panel fod amhariad ar addasrwydd presennol Mr Boyle i ymarfer a gosododd Orchymyn Dileu sy’n golygu na fydd yn gallu gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol a reoleiddir yng Nghymru.

Bydd enw Mr Boyle yn cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr a’i roi ar y Rhestr o Bobl sy’n cael eu Dileu o’r Gofrestr.

Mae gan Mr Boyle yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal cyn pen 28 diwrnod.

Mae mwy o wybodaeth am yr achos ar gael ar gais, fodd bynnag noder y gallai peth gwybodaeth gael ei golygu. Fe fydd angen hyd at 7 diwrnod i anfon y rhesymau.

Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru
Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru