CONTENT ENVIRONMENT
Jump to content
Bobbi Lea Cootes
Rôl cofrestredig
Gweithiwr gofal catref
Canlyniad
Gorchymyn ar unwaith i atal cofrestriad o 27/11/2023 tan ddechrau Gorchymyn Dileu ar 25/12/2023
Lleoliad
Gwrandawiad o bell gan Zoom
Math o wrandawiad
Panel addasrwydd i ymarfer

Crynodeb o'r penderfyniad

Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer wedi canfod bod honiadau o bryderon diogelu difrifol gan gynnwys cam-drin corfforol a seicolegol defnyddiwr gofal a chymorth yn erbyn Bobbi Lea Cootes, gweithiwr gofal cartref cofrestredig.

Canfu'r Panel fod gan Bobbi Lea Cootes amhariad ar addasrwydd i ymarfer cyfredol a gosododd Orchymyn Dileu sy'n golygu na fydd hi'n gallu gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol reoledig yng Nghymru. Bydd enw Bobbi Lea Cootes yn cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr a'i roi ar y Rhestr o Bobl a Dynnwyd o'r Gofrestr.

Mae gan Bobbi Lea Cootes yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal o fewn 28 diwrnod.

Mae mwy o wybodaeth am yr achos ar gael ar gais. Fodd bynnag, nodwch y gall rhywfaint o wybodaeth gael ei golygu.

---------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru

Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru

Crynodeb o honiadau

Bydd y gwrandawiad hwn yn ystyried pryderon diogelu difrifol a godwyd mewn perthynas ag ymddygiad Miss Cootes.